Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 61,603 |
Gefeilldref/i | Racibórz, Iserlohn |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Gwaunyterfyn |
Cyfesurynnau | 53.0467°N 2.9936°W |
Cod OS | SJ335505 |
Cod post | LL11-14 |
Gwleidyddiaeth | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dinas[1] yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Wrecsam[2][3] (Saesneg: Wrexham). Mae'n canolfan weinyddol Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'r dref fwyaf o ran poblogaeth yng ngogledd Cymru, gyda phoblogaeth o dros 42,576 yn Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001, ac roedd gan Ardal Drefol Wrecsam, fel y diffiniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, boblogaeth o 63,084.[4] Mae gan ardal ehanagach Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n gorchuddio ardal o 50,500 hectar, boblogaeth o dros 130,000. Hon yw'r dref nawfed fwyaf yng Nghymru yn ôl poblogaeth, ond y pedwrydd yn ôl ei hardal drefol. Yn hanesyddol bu'n rhan o'r hen Sir Ddinbych, ac mae'n rhan o sir seremonïol Clwyd. Yr enw Saesneg Wristleham yw tarddiad yr enw Wrecsam yn Gymraeg, mae'r enw Saesneg hefyd wedi newid i Wrexham erbyn heddiw.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Andrew Ranger (Llafur).[5][6]
Mae tystiolaeth o weithgaredd dyn yn ardal Wrecsam yn dyddio'n hyd i 8,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae cofnod o Edward I, brenin Lloegr yn aros yn Wrecsam am gyfnod byr yn ystod ei ymgyrch i atal gwrthryfel Madog ap Llywelyn ym 1294. Daeth y dref yn rhan o Sir Ddinbych pan grewyd y sir ym 1536. Roedd Wrecsam wedi ei rannu'n ddwy drefgordd gwahanol, Wrexham Regis (dan reolaeth Brenin Lloegr) a Wrexham Abbot (rhannau hynaf y dref yn gyffredinol, a fu'n eiddo i Abaty Glyn y Groes, Llangollen yn wreiddiol).
Digwyddodd un o'r trychinebau mwyaf erchyll yn hanes pyllau glo Prydain yng Nglofa Gresffordd ger Wrecsam, pan laddwyd 265 o löwyr ar ôl ffrwydrad nwy yn y pwll ar yr 22 Medi 1934.
Clwb Pêl-droed Wrecsam yw'r clwb pêl-droed proffesiynol hynaf yng Nghymru.
Mewn rhigwm adnabyddus mae clochdy eglwys Wrecsam yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.
Fe wnaeth Cyngor Wrecsam lunio tri cais anllwyddiannus am statws dinas - yn 2000, 2002 a 2012. Yn 2022, llwyddodd eu cais i gael statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines Elizabeth. Roedd yn un o 8 tref a ddewiswyd drwy wledydd Prydain.[1]
Mae Wrecsam wedi bod yn ganolfan ddiwylliannol, cyhoeddi a pherfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Neuadd berfformio ar gyfer cyngherddau clasurol, pop, comedi, drama a dawns yw Neuadd William Aston. Mae'n rhan o Prifysgol Wrecsam. Mae'n ganolfan ar gyfer Cerddorfa Symffoni Wrecsam.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym 1888, 1912, 1933, 1977 a 2011.
Yn ôl y Dictionary of the Place-Names of Wales, daw'r enw o gyfuniad o'r enw person 'Wryhtel' a'r gair 'hamm' sef dôl mewn hen Saesneg, ond mae hefyd yn nodi 16 ffurf wahanol.[7]
Mae yna berthynas freintiedig rhwng Wrecsam (Prifysgol Glyndŵr - Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru cynt) a Saint-Dié-des-Vosges (Institut universitaire de technologie), yn Ffrainc.
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre