Wylun y borfa | |
---|---|
Oedolyn | |
Lindysyn | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Lasiocampidae |
Genws: | Lasiocampa |
Rhywogaeth: | L. trifolii |
Enw deuenwol | |
Lasiocampa trifolii Denis & Schiffermüller, 1775 |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw wylun y borfa, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy wyluniau'r borfa; yr enw Saesneg yw Grass Eggar, a'r enw gwyddonol yw Lasiocampa trifolii.[1][2] Mae i'w ganfod ledled Ewrop. Mae'r ffurf Lasiocampa trifolii f. flava (wylun gwelw'r borfa, Pale Grass Eggar) i'w ganfod yn Dungeness, Caint yn unig.
40–55 mm ydy lled yr adenydd agored ac mae'n hedfan o Fehefin i Fedi, yn ddibynol ar ei leoliad.
Prif fwyd y lindys ydy'r dderwen, ffawydden, poplysen a Calluna.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae wylun y borfa yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.