URL | xhamster.com/ |
---|---|
math o safle | Pornograffig (rhannu fideos) |
cofrestru | Opsiynol |
ieithoedd | Nifer |
trwydded cynnwys | Am ddim |
perchennog | Hammy Media Ltd[1] |
lansio | 2 Ebrill 2007 |
Gradd Alexa | 82 (Global Mawrth 2017) |
statws ar hyn o bryd | Arlein |
Cyfrwng cymdeithasol a gwefan erotig a sefydlwyd yn 2007 ydy xHamster sydd a'i bencadlys yn Limassol, Cyprus.[1]. Mae'n darparu fideos, modelau webcam, lluniau a llenyddiaeth erotig ac mae ganddo tua 10 miliwn o aelodau wedi tanysgrifio. Dyma'r drydedd wefan bornograffig mwya poblogaidd y we fyd-eang, gan ddilyn XVideos a Pornhub.
Mae'r wefan hefyd yn cyhoeddi The Sex Factor, cyfres ble mae dynion a merched yn cystadlu er mwyn bod yn sêr yn y byd porn. Mae llawer o wledydd wedi atal (neu 'banio') xHamster, gan eu bod nhw'n credu mewn rhyddid gwybodaeth agored.
Yng ngwanwyn 2007, daeth grŵp at ei gilydd i lansio gwasanaeth ar gyfer oedolion,[1][2] ac fe'i laniswyd yn swyddogol ar 2 Ebrill 2007.[3] Ar y dechrau cafodd y wefan ei lansio fel gwefan cyfnewid lluniau, gydag elfen o sgwrsio rhwng yr aelodau a rhannu fideos... ac efallai darganfod partner."[1] Erbyn 2015 roedd gan y wefan 10 miliwn o aelodau.[1]
Yn Nhachwedd 2016, cafodd cwrw xHamster ei ryddhau. Mae ynddo 8.5% o alcohol, ac mae'n cael ei alw'n ABV Belgian Triple-style ale ac ar gael am 3.90 EUR am .5 litr. Wedi dim ond 5 diwrnod, gwerthwyd y cwbwl![4]
Dros y blynyddoedd, mae'r wefan xHamster wedi cael ei hatal gan sawl llywodraeth. Yn Awst 2015, cafodd ei atal drwy ddeddf gan Llywodraeth India.[5][6] Yn Rwsia, yn Ebrill 2014, cafodd ei atal gan lys sirol.[7][8]