Roedd ei thad, Osamu Dazai, yn nofelydd enwog, a gyflawnodd hunanladdiad pan oedd Yūko Tsushima yn flwydd oed. Yn ddiweddarach, defnyddiodd Yūko Tsushima hyn wrth ysgrifennu ei stori fer "Teyrnas y Dŵr."[3][4]
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Menywod Shirayuri a Phrifysgol Meiji.[5][6][7][8]
Wrth fynychu Prifysgol Merched Shirayuri cyhoeddodd ei ffuglen gyntaf. Yn 24 oed cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o straeon, "Carnifal" (Shaniku-sai).[9]
Er na ddefnyddiodd y gair erioed, disgrifir ei harddull fel un "ffemenistaidd".[10][11][12] Mae'n ymchwilio yn ei gwaith yn ddwfn i bobl yr ymylon, yn enwedig merched, sy'n brwydro er mwyn rheoli eu bywydau eu hunain, a hynny yn erbyn y teulu a'r gymuned.[11][13] Nododd i Tennessee Williams fod yn ddylanwad mawr ei ei gwaith.[14]
Enillodd Tsushima lawer o brif wobrau llenyddol Japan yn ystod ei gyrfa, gan gynnwys Gwobr Llenyddiaeth Izumi Kyōka, Gwobr Noma am Wyneb Newydd mewn Llenyddiaetyh, Gwobr Lenyddol Noma, Gwobr Yomiuri, a Gwobr Tanizaki. Galwodd y New York Times Tsushima yn "un o awduron pwysicaf ei chenhedlaeth." Mae ei gwaith wedi'i gyfieithu i dros ddwsin o ieithoedd.[15] Yn wahanol i'w chyfoeswyr a ysgrifennai'n aml am yr uned deuluol, canolbwyntiodd Yūko Tsushima am fenywod oedd wedi eu hesgymuno o'r gymdeithas gan y gymdeithas a'r teulu.[16]
↑Hartley, Barbara (3 Mehefin 2016). "Chapter 6: Feminism and Japanese Literature". In Hutchinson, Rachael; Morton, Leith Douglas (gol.). Routledge Handbook of Modern Japanese Literature. tt. 82–94.