Y Gwarchodlu Cymreig | |
---|---|
Bathodyn y Gwarchodlu Cymreig | |
Gweithredol | 1915–presennol |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Cangen | Byddin Y Deyrnas Unedig |
Math | Gwarchodlu'r Troedfilwyr |
Rôl | Bataliwn 1af - Troedfilwyr Ysgafn |
Maint | Un Bataliwn |
Rhan o | Adran y Gwarchodlu |
Pencadlys | Elizabeth Barracks Pirbright |
Arwyddair | "Cymru am Byth" |
Gorymdaith | Sydyn – Rising of the Lark Araf – Gwŷr Harlech |
Penblwyddi | 1 Mawrth (Dydd Gŵyl Dewi) |
Cadlywyddion | |
Pencadfridog | Elizabeth II |
Arwyddlun | |
Fflach Adnabod Tactegol | |
Plufyn | Gwyn/Gwyrdd/Gwyn Ochr chwith y cap croen arth |
Talfyriad | WG |
Un o gatrodau Gwarchodlu'r Troedfilwyr yn y Fyddin Brydeinig yw'r Gwarchodlu Cymreig (Saesneg: Welsh Guards). Fe'i sefydlwyd ar 26 Chwefror 1915 diolch i Warant Frenhinol Brenin Siôr V. Crewyd y catrawd er mwyn sicrhau presenoldeb cenedlaethol o Gymru ymysg Gwarchodluoedd y Troedfilwyr.
Yn Loos yn y Rhyfel Byd Cyntaf bu fedydd gwaed y gatrawd. Ymladdodd tri bataliwn yn Ewrop a Gogledd Affrica yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, chwalwyd dau fataliwn ac ers hynny bu'r Bataliwn Cyntaf yn gwasanaethu ym mhob un o ryfeloedd y Deyrnas Unedig.
Lleolir ei phencadlys ym Marics Wellington yn Llundain. Symudodd y Bataliwn Cyntaf o Aldershot i RAF Sain Tathan yn 2003.
Hon yw un o'r dair chatrawd Gymreig yn y Fyddin Brydeinig fodern, gyda'r Cymry Brenhinol a Gwarchodlu Dragŵn 1af Y Frenhines. EM Y Frenhines yw prif gyrnol y gatrawd, a Thywysog Cymru yw'r cyrnol.[1] Catrawd gynghreiriol y Gwarchodlu Cymreig yw 5ed/7fed Bataliwn Catrawd Frenhinol Awstralia.[2]
Ar ôl ffurfio'r Gwarchodlu Gwyddelig ym 1900, roedd gwarchodlu i gynrychioli pob rhan o Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ac eithrio Cymru: y tri gwarchodlu arall oedd y Gwarchodlu Albanaidd, a Gwarchodlu'r Grenadwyr a Gwarchodlu Coldstream yn Lloegr (er saif tref Coldstream ar ffin yr Alban). Galwyd am i Gymru gael ei chatrawd ei hun, a wnaed hynny yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd Cadlywydd Kitchener orchymyn brenhinol i greu'r Gwarchodlu Cymreig ar 6 Chwefror 1915 [3][4] gyda'r gatrawd yn dod i fodolaeth swyddogol ar 26 Chwefror 1915 diolch i Warant Frenhinol Brenin Siôr V. Ymgasglodd Cymry o'r Gwarchodluoedd eraill ar frys i ffurfio'r gartrawd newydd er mwyn iddynt allu gorymdeithio ar Ddydd Gŵyl Dewi. Roedd angen i recriwtiaid fod ag o leiaf un rhiant o Gymru, neu fod â chartref yng Nghymru, neu fod â chyfenw Cymreig.[5] Enillodd y gwarchodlu newydd y llysenw "Lleng Dramor" oherwydd yr amryw fathodyn cap oedd gan yr aelodau cyntaf.[6] Y Gwarchodlu Cymreig oedd yr olaf o'r Gwarchodluoedd i gael ei sefydlu.
Ar 1 Mawrth 1915 roedd Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig yn gwarchod Palas Buckingham am y tro cyntaf.[7] ac ar 17 Awst 1915 hwyliodd y Bataliwn 1af i Ffrainc er mwyn ymuno ag Adran y Gwarchodluoedd ac ymuno yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth eu brwydr gyntaf yn Loos ar 27 Medi 1915 gyda Croes Fictoria cyntaf y gatrawd yn cael ei hennill ym mis Gorffennaf 1917 gan Rhingyll Robert Bye.[7]
Wedi diwedd y Rhyfel Mawr ym 1918, dychwelodd y Bataliwn i Ynysoedd Prydain, lle treuliwyd y rhan helaeth o'r cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd, gan ymarfer a pherfformio gwasanaethau seremonïol fel Cyflwyno'r Faner a Newid y Gwarchodlu.
Bu'r Bataliwn hefyd ar leoliad yng Nghwlen, Yr Almaen ac yn yr Aifft, lle roeddent yn rhan o 29fed Brîgad y Troedfilwyr (Brigâd Cairo) cyn symud i Gibraltar lle roeddent yn trigo pan gychwynodd yr Ail Ryfel Byd ym mis Medi 1939. Crewyd 2il Fataliwn y Gwarchodlu Cymreig ym 1939.[7]
Ymestynwyd y catrawd i dri Bataliwn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Brywdrodd y Bataliwn 1af ym mhob un o ymgyrchoedd Maes y Gad Gogledd-Orllewin Ewrop. Brwydrodd yr 2il Fataliwn yn Boulogne ym 1940 tra bo'r Bataliwn 1af yng Ngwlad Belg fel rhan o'r Fyddin Ymgyrchol Brydeinig. Enillodd y Gwarchodlu eu hail Croes Fictoria ym Mrwydr Arras ym Mai 1940 yn dilyn gweithred gwrol Is-Gapten Christopher Furness a fu farw yn ystod y frwydr. Roedd y Bataliwn 1af yn rhan o Wacâd Dunkerque welodd dros 340,000 o filwyr Prydain a Ffrainc yn ffoi yn ôl i Ynysoedd Prydain.[7]
Brwydrodd y 3ydd Bataliwn o'r Gwarchodlu Cymreig yn Tiwnisia fel rhan o Ymgyrch Gogledd Affrica ac yn ymgyrchoedd Yr Eidal ym 1943[7].
Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd diddymwyd y 3ydd Bataliwn a chafodd yr 2il Fataliwn ei hatal dros-dro. Ym 1947 cafodd y Gwarchodlu Cymreig eu gyrru i Balesteina oedd, ar y pryd, o dan reolaeth Prydain Fawr. Roedd y Gwarchodlu yn rhan o Frîgad 1af y Troedfilwyr oedd yn gyfrifol am ddiogelwch cyn gadael y wlad ym 1948 pan grewyd gwladwriaeth Israel. Cafodd y Catrawd y fraint o gyflwyno eu baner ym 1949[8].
Ym 1950 cafodd y catrawd eu gyrru i Orllewin yr Almaen fel rhan o 4ydd Brîgad y Troedfilwyr, oedd yn rhan o Fyddin Prydain ar y Rhein (BAOR). Ymunodd y catrawd â Brigâd Berlin ym 1952 yng Ngorllewin Berlin yng nghanol y Rhyfel Oer rhwng gwledydd NATO a gwledydd Cytundeb Warsaw. Dychwelodd y Gwarchodlu Cymreig gartref ym 1953 cyn symud i Ardal Camlas Suez yn Yr Aifft hyd nes i Fyddin Prydain adael yr ardal ym 1956 wedi Rhyfel Suez.[9].
Ar ôl cyfnod arall yng Ngorllewin yr Almaen a cyfnod yn Aden cafodd y Gwarchodlu Cymreig eu lleoli yng Ngogledd Iwerddon ym 1972 yn ystod y cyfnod cythryblus a threisgar â elwir Yr Helyntion cyn ymuno â byddinoedd y Cenhedloedd Unedig yng Nghyprus ym 1976 yn sgîl ymosodiad Twrci ar yr ynys ym 1974[10].
Dychwelodd y gatrawd i Orllewin Berlin ym 1977, ac eto i Ogledd Iwerddon ym 1979 pan gafodd y Gwarchodluwr Paul Fryer ei ladd gan fom. Ar 9 Gorffennaf 1981, saethwyd bachgen 15 oed o'r enw Daniel Barrett yn farw gan un o filwyr y Gwarchodlu yng ngogledd Belffast.[11]
Ym 1982, roedd y Gwarchodlu Cymreig yn rhan o 5ed Brigâd y Troedfilwyr gafodd eu gyrru i waredu Ynysoedd y Falklands rhag byddin Ariannin yn ystod Rhyfel y Falklands. Ar 7 Mehefin roedd y Gwarchodlu ar fwrdd Sir Galahad, oedd yn disgwyl gyda'r Sir Tristram, i lanio yn Bluff Cove, ond tra bod oedi yn glanio'r milwyr, ymosododd pum awyren Dagger a phum awyren A-4 Skyhawk gyda thri taflegryn o'r awyrenau yn llwyddo i daro'r Sir Galahad. Bu farw 48 o bobl yn yr ymosodiad, 32 o'r Gwarchodlu Cymreig, 11 aelod arall o'r fyddin a phump o griw y Sir Galahad. Suddwyd y Sir Galahad yn ddiweddarach er mwyn caniatau iddi fod yn fedd milwrol[12].
Yn 2002 cyrhaeddodd y catrawd Bosnia fel rhan o Grym Sefydlogi (SFOR), ymgyrch NATO i sicrhau heddwch a sefydlogrwydd yn y wlad cyn symud i Basra fel rhan o Ymgyech Telic yn ne Irac yn 2005.
Ym mis Ebrill 2009 cafodd y Gwarchodlu Cymreig eu gyrru i Affganistan fel rhan o Ymgyrch Herrick.
Yn ei waith fel un o gatrodau'r Osgordd, mae'r Gwarchodlu Cymreig yn gwarchod preswylfeydd y Frenhines a chestyll a phalasau sy'n gysylltiedig â'r Goron: Palas Sant Iago, Palas Buckingham, Castell Windsor, a Thŵr Llundain. Mae Gwarchodluwyr yn cymryd rhan mewn paredau a thasgau seremonïol gan gynnwys Cyflwyno'r Faner a Gosgorddion er Anrhydedd ar gyfer penaethiaid gwladol sy'n ymweld â'r Deyrnas Unedig.[13] Maent hefyd wedi cymryd rhan mewn sawl priodas frenhinol ac angladd, gan gynnwys angladd seremonïol y Dywysoges Diana ym 1997, priodas y Tywysog William a Catherine Middleton yn 2011, ac angladd seremonïol Margaret Thatcher yn 2013.
Fel un o Warchodluoedd y Troedfilwyr, hyfforddai recriwtiaid gan gwrs sy'n debyg i'r Combat Infantryman's Course, ond yn crybwyll dwy wythnos ychwanegol er mwyn dysgu dril ac ymarferion seremonïol y gwarchodluwr. Digwyddir hyn yng Ngwmni Hyfforddi'r Gwarchodluoedd yng Nghanolfan Hyfforddi'r Troedfilwyr (ITC), Catterick.[14]
Un fataliwn sydd i'w Gwarchodlu Cymreig bellach.
Patrwm Troedfilwyr y Gwarchodluoedd yw gwisg lawn y Gwarchodlu Cymreig: gwisg ysgarlad gyda ffesin glas. Gosodir y botymau ar y diwnig mewn cyfresi o bump, sy'n dynodi mai'r Gwarchodlu Cymreig oedd y pumed Gwarchodlu i gael ei ffurfio. Arddangosir ar y botymau goron a chenhinen a rholyn yn darllen "Cymru Am Byth" yn eu hamgylchynu. Ar lawes dde'r swyddog hŷn heb ei gomisiwn (NCO), gwisgir bathodyn lliw gyda'r ddraig goch a'r arwyddair.[6] Cenhinen wen sydd ar fathodyn coler y diwnig a plufyn gwyn-gwyrdd-gwyn ar ochr chwith y cap croen arth.[2] Ar y capan glas, gwisgir rhuban ffigurog du a'r bathodyn cap.[6]
Y genhinen wen sydd hefyd ar fathodyn cap y gatrawd: hwn oedd arwyddnod y milwyr Cymreig a ymladdodd dros Edward, y Tywysog Du, yn y 14g. Nid yw'r dyluniad wedi ei newid ers sefydlu'r gatrawd ym 1915, ac eithrio'r newid ar draws y fyddin y y 1950au o bres i fathodynnau wedi eu hanodeiddio. Fel rheol, mae milwyr a swyddogion gwarant yn prynu bathodynnau metel eurog, y gellir ei gaboli. Gwisgir bathodynnau o frodwaith metel ar gapiau'r swyddogion. Ar gapan caci, gwisgir bathodyn o frethyn ar sgwâr sidan o batrwm Adran yr Osgordd.[15]
Ffeiliau sain allanol | |
---|---|
"Codiad yr Ehedydd" | |
"Gwŷr Harlech" |
Ymdeithgan gyflym y gatrawd yw "Codiad yr Ehedydd", a gyfansoddwyd yn y 18g gan y telynor David Owen (Dafydd y Garreg Wen). "Gwŷr Harlech" a "Gwŷr Morgannwg" yw'r ddwy ymdeithgan araf.[6]
Daw uwch na 95 y cant o recriwtiaid y Gwarchodlu Cymreig o Gymru. Saeson, nifer ohonynt o dras Gymreig, yw'r mwyafrif o'r gweddill, a hefyd ychydig dwsin o Ffijïaid.[16] Mae'r mwyafrif o'r swyddogion yn Saeson, neu'n Eingl-Gymry, a nifer ohonynt wedi mynychu ysgolion bonedd Lloegr, gan gynnwys Eton, Radley, Oundle, a Charterhouse. O ganlyniad rhoddir yr hen lysenw "Lleng Dramor" ar ystafell fwyta'r swyddogion, ond mewn ystyr wahanol, gan filwyr y rhengoedd eraill.[17]
Fel noder eisoes, "Cymru Am Byth" yw arwyddair y gatrawd a'r genhinen yw ei arwyddlun amlycaf, dau symbol sy'n cynrychioli Cymru oll. Cyflwynir cennin i aelodau'r gatrawd gan aelod o'r deulu brenhinol ar Ddydd Gŵyl Dewi. Hwn oedd galwad swyddogol cyntaf y Dywysoges Anne ar ben ei hun ym 1969.[6] Llysenw cyffredin y Gwarchodlu Cymreig gan y gatrodau eraill yw'r "Taffs", enw Saesneg ar y Cymry,[2] ond yn naturiol nid yw'r enw hwnnw i'w glywed ymhlith y rhengoedd gan gatrawd sydd bron i gyd yn Gymry.[18] Gan fod cymaint o gyfenwau Cymreig gan y milwyr – Jones, Davies, Williams, Evans, Thomas, Roberts, Parry, Edwards, Morgan, a Griffiths yn eu plith – arferai'r gwarchodluwyr defnyddio y ddau rif olaf mewn rhif gwasanaeth i gydnabod ei gilydd, naill ai y rhifau'n unig neu wedi cyfuno â'r cyfenw, er enghraifft Jones 96.[19]
Yn hanesyddol – ac, o bosib, o hyd – pennai cwmni'r gwarchodluwyr yn ôl eu taldra. Gelwir cwmni hŷn y gatrawd yn Gwmni Tywysog Cymru, a elwir gan ei hen lysenw The Jam Boys o ganlyniad i'w gais am ragor o jam yn y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd er mwyn bwydo'r milwyr talaf yn y rhengoedd.[20] Ynghynt, rhoddir dynion o dan pum troedfedd a saith modfedd yng nghwmni 3. Enillodd y cwmni hwnnw ei lysenw the Little Iron Men, yn ôl un stori, gan iddynt gynorthwyo'r Peirianwyr Brenhinol wrth sefydlu pont nofiol ger Monte Cassino ym 1944 tra'r oedd y gelyn yn saethu arnynt.[21] Cysylltir cwmni 2 â Gogledd Cymru ac Ynys Môn yn bennaf, a'i arwyddair yw "Gwŷr Ynys y Cedyrn", cyfeiriad at y Mabinogi.
Mae'r Gwarchodlu Cymreig wedi eu hurddo â'r anrhydeddau brwydr canlynol:[22]
Loos, Somme 1916 Somme 1918, Brwydr Ginchy, Brwydr Flers Courcelette, Brwydr Morval, Ypres 1917, Brwydr Pilckem, Brwydr Poelcappelle, Brwydr Passchendaele, Cambrai 1917, Bapaume 1918, Arras 1918, Albert 1918, Drocourt-Quéant, Llinell Hindenburg, Brwydr Havrincourt, Brwydr Canal Du Nord, Brwydr Selle, Brwydr Sambre, Ffrainc a Fflandrys 1915–18
Brwydr Arras, Brwydr Boulogne 1940, St Omer-La Bassée, Bourguébus Ridge, Cagny, Mont Pincon, Brwsel 1944-45, Hechtel, Nederrijn, Y Rhein, Lingen, Gogledd-Orllewin Ewrop 1940 '44–45, Fondouk, Djebel el Rhorab, Tunis, Hammam Lif, Gogledd Affrica 1943, Monte Ornito, Dyffryn Liri, Monte Piccolo, Cipio Perugia, Arezzo, Florence, Llinell Gothig, Battaglia, Yr Eidal 1944–45
Ynysoedd y Falklands 1982, Affganistan 2009
Ar 31 Gorffennaf 1917 cafodd Bye ei enwbu am y Groes Fictoria yn dilyn y weithred a ddisgrifir yma:
No. 939 Sjt. Robert Bye, Welsh Guards (Penrhiwceiber, Glamorgan).
Am ddewrder o'r mwyaf. Dangosodd Sjt. Bye wroldeb hyd yr eithaf ac ymroddiad wrth ddyletswydd yn ystod ymosodiad ar safleoedd y gelyn. O weld fod yr ymosodiadau cyntaf yn cael eu rhwystro gan dau flocws y gelyn, penderfynodd ar ei liwt ei hun i redeg tuag at un ohnnynt a dinistrio'r gariswn. Ailymunodd â'i ddynion er mwyn ymosod ar yr ail nôd. Wedi i'r milwyr fynd ymlaen i ymosod ar y trydydd nôd cafodd parti ei orchymyn i glirio'r blocysau oedd wedi eu pasio. Gwirfoddolodd Sjt. Bye i arwain y parti gan gwblhau y nôd a chymryd sawl carcharor. Parhaodd i ymosod gan gyrraedd y trydydd nôd a chipio nifer o garchaorion eraill gan gynnig cymorth amhrisiadwy i'r milwyr oedd yn ymosod. Profodd ei allu rhyfeddol i achub y blaen trwy gydol yr ymosodiad.[23]
|df=yes
(help); Check date values in: |date=
(help)