Y Gêm

Ffenomen gymdeithasol a gêm yw Y Gêm. Yr unig peth rydych angen i chwarae ydy gwybod fod y Gêm yn bodoli. Amcan y Gêm ydy peidio â meddwl am y gem. Lledaenir y Gêm ar lafar, felly mae sawl fersiwn gwahanol, ond maent i gyd yn rhannu'r rheolau sylfaenol:

  • Gwybod am y Gêm ydy'r unig peth rydych angen i chwarae.
  • Mae meddwl am Y Gêm yn wneud i chi golli'r gêm.
  • Mae rhaid i rhywyn sydd yn colli'r Gêm dweud hynny.

Mae yna wahanol fathau o'r Gêm, er enghraifft: mewn un fersiwn, pan mae chwaraewr yn dweud ei fod wedi colli'r Gêm, mae pob chwaraewr arall sydd yn presennol yn cael dipyn o amser i anghofio am y Gêm (5-30 munud). Ar ôl hynny, maent yn parhau i chwarae. Toes ddim diwedd i'r Gêm; fedrith chwaraewyr colli nifer o weithiau.