![]() Llawysgrif o'r Llith Euraid yn y Biblioteca Medicea Laurenziana, Fflorens, tua 1290 | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Jacobus de Voragine ![]() |
Iaith | Lladin yr Oesoedd Canol ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1298 ![]() |
Genre | hagiograffeg ![]() |
Yn cynnwys | Legend of the Doubting Bakery Woman ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
![]() |
Casgliad o fucheddau'r seintiau gan Jacobus de Voragine yw Y Llith Euraid (Lladin: Legenda aurea). Yn ôl pob tebyg cafodd y llyfr ei lunio tua 1260, er bod ychwanegiadau wedi'u gwneud dros y canrifoedd canlynol. Darllenwyd y testun Lladin yn eang drwy bob rhan o Ewrop yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Mae dros fil o lawysgrifau o'r testun wedi goroesi.[1] Ar ôl dyfeisio'r wasg argraffu tua 1450, ymddangosodd llawer o argraffiadau y llyfr yn Lladin ac mewn amrywiol ieithoedd eraill.