Y Lolfa

Y Lolfa
Enghraifft o'r canlynolcyhoeddwr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1967 Edit this on Wikidata
PencadlysTal-y-bont Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.ylolfa.com/ Edit this on Wikidata
Warws Y Lolfa yn Nhal-y-bont gyda murlun gan yr artist leol, Ruth Jên

Gwasg argraffu a chyhoeddi a leolir ym mhentref Tal-y-bont, Ceredigion, yw Y Lolfa. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn enw'r Lolfa yn 1966 — Hyfryd Iawn gan Eirwyn Pontshân — cyn sefydlu'r cwmni fel gwasg fasnachol gan Robat Gruffudd yn 1967.

Tyfodd y wasg allan o'r deffroad ieithyddol a gwleidyddol yng Nghymru yn chwedegau'r ganrif ddiwethaf. Gellir dweud mai ei "marchnad" cynharaf oedd y to newydd o bobl ifanc a gododd yn y cyfnod ac atyn nhw yr anelwyd llawer o ddeunydd cynnar y wasg, yn llyfrau canu poblogaidd, cardiau doniol, posteri seicedelaidd a barddoniaeth "answyddogol".

Roedd gan y cwmni gysylltiad agos ond anffurfiol â Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bu'n argraffu ei chylchgrawn misol, Tafod y Ddraig am gyfnod hir a'r Lolfa, yn 1969, a greodd logo presennol y Gymdeithas.

Y Lolfa oedd y wasg gyhoeddi Gymraeg gyntaf i ddefnyddio'r dechnoleg offset litho. Manteisiodd ar y rhyddid a gynigiai'r dull newydd hwn o argraffu i gynhyrchu deunydd mentrus a fyddai'n llanw bylchau pwysig yn y farchnad lyfrau Cymraeg. Ar yr un pryd roedd yn cynhyrchu deunydd argraffu lliwgar megis ar gyfer y grwp trydanol Y Blew, cyngherddau "Pinaclau Pop", yn ogystal â nifer fawr o bosteri gwleidyddol ar gyfer Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Hyfryd Iawn gan Eirwyn Pontshân, llyfr cynta'r Lolfa.

Datblygodd y cwmni'n raddol gan fentro i feysydd newydd fel cyfresi poblogaidd i blant ('Y Llewod' a chyfres 'Rwdlan'), llyfrau dysgu Cymraeg yn llawn hiwmor gwleidyddol anghywir, nofelau cyfoes, a llyfrau ar gyfer ymwelwyr i Gymru. Er mwyn cefnogi arlunwyr a dylunwyr Cymreig, penderfynodd Y Lolfa ddilyn polisi o beidio cyhoeddi addasiadau.

Bu'r cwmni yn gysylltiedig ag argraffu a chyhoeddi'r papur bro cyntaf yn Gymraeg, Papur Pawb yn Nhal-y-bont, Ceredigion (1974).[1] Y Lolfa hefyd oedd y wasg gyntaf Gymraeg i gael ei gwefan ei hun.

Un o'r uchafbwyntiau yn hanes y cwmni oedd cyhoeddi Llyfr y Ganrif ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1999. Yn 2007, enillodd wobr 'Llyfr y Flwyddyn' am y trydydd tro o'r bron. Yn 2012 prynodd Y Lolfa stoc lyfrau oedolion Gwasg Gomer yn y ddwy iaith gan droi'r cwmni yn un o brif gyhoeddwyr Cymru. Erbyn hyn mae'n cyhoeddi tua 80 o deitlau'r flwyddyn.

Mae'r Lolfa yn gwmni cyfyngedig yn cyflogi dau ar hugain o staff amser llawn, gan gynnwys chwech o olgyddion. Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau, mae'n cynnig gwasanaeth argraffu cyffredinol ar beiriannau 5-lliw a pherffeithio yn y maint B2.

Cyfarwyddwyr Y Lolfa yw Garmon Gruffudd (Rheolwr Gyfarwyddwr) a Lefi Gruffudd (Pennaeth Cyhoeddi), gyda Paul Williams yn Reolwr Cynhyrchu.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Papur Pawb
  2. "Staff Y Lolfa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-14. Cyrchwyd 2017-10-17.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]