Mae'r Pictiwrésg yn ddelfryd esthetig a gyflwynwyd i ddadl ddiwylliannol yn Lloegr yn 1782 gan William Gilpin mewn cyfrol o'r enw Observations on the River Wye, and Several Parts of South Wales, etc. Relative Chiefly to Picturesque Beauty; made in the Summer of the Year 1770.[1] Roedd y Pictiwrésg, ynghyd â llinynnau esthetig a diwylliannol Gothig a Cheltiaeth, yn rhan o'r synhwyrau Rhamantaidd a ddaeth i'r amlwg yn y 18fed ganrif.[2] Tua chanol y 18fed ganrif dechreuodd y syniad o deithiau pleser am olygfeydd pur gael eu cynnal ymhlith y dosbarth hamddenol Seisnig. Roedd gwaith William Gilpin yn her uniongyrchol i ideoleg y Daith Fawr sefydledig, gan drawsnewid gwerthoedd clasurol y cyfandir i werthoedd yn seiledig fwy ar hap a damwain afreolaidd.