Enghraifft o'r canlynol | Terfysgaeth wladwriaethol |
---|---|
Rhan o | y Rhyfel Oer |
Dechreuwyd | 1955 |
Daeth i ben | 1989 |
Lleoliad | yr Ariannin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymgyrch o derfysgaeth wladwriaethol gan y jwnta filwrol a reolodd yr Ariannin o 1976 hyd 1983 oedd y Rhyfel Brwnt (Sbaeneg: Guerra Sucia). Targedodd luoedd milwrol a diogelwch y jwnta grwpiau gerila adain chwith, a thorrwyd hawliau dynol gan gynnwys artaith a llofruddiaethau torfol gan sgwadiau marwolaeth y jwnta. Amcangyfrifir i 10,000–30,000 o Archentwyr gael eu lladd gan y llywodraeth, a nifer ohonynt wedi "diflannu".[1] Roedd y Rhyfel Brwnt yn rhan o Ymgyrch Condor, sef rhaglen gan unbenaethau De America i ormesu gwrthwynebwyr a gwrthryfelwyr yr adain chwith yn ystod y Rhyfel Oer.