Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 12,981, 13,066 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 306.12 ha |
Cyfesurynnau | 51.49°N 3.24°W |
Cod SYG | W04000845 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mark Drakeford (Llafur) |
AS/au y DU | Alex Barros-Curtis (Llafur) |
Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw y Tyllgoed (Saesneg: Fairwater). Saif yng ngorllewin y ddinas. Mae'r enw'n golygu y coed tywyll, ac mae'n dyddio'n ôl i'r 15g. Mae'r ardal werdd hon wedi ei rhannu'n dai preifat ar led-wahân yr 1930au yn y pen deheuol, a thai cyngor yr 1950au tua'r gogledd ger Pentrebane.