Y bengaled

Centaurea nigra
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Centaurea
Rhywogaeth: C. nigra
Enw deuenwol
Centaurea nigra
L.
Centaurea nigra

Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy'r bengaled sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Centaurea nigra a'r enw Saesneg yw Common knapweed. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Pengaled, Cramennog, Madfelen, Pengaled Benddu, Pengaled Coch, Pengaled Du, Pengaled Leiaf Benddu.

Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.

Mae'n blanhigyn lluosflwydd sy'n frodorol o Ewrop a chaiff ei ystyried gan lawer yn chwynyn. Gall dyfu i uchder o oddeutu metr.

Mae'r dail hyd at 25 cm o faint, ac fel arfer yn glustennog ac yn flewog. Mae cyffion gan y dail isaf, ond nid y dail uchaf.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: