Y galdrist rithiol

Epipogium aphyllum
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Urdd: Asparagales
Teulu: Orchidaceae
Genws: Epipogium
Rhywogaeth: E. aphyllum
Enw deuenwol
Epipogium aphyllum
Olof Swartz
Cyfystyron

Satyrium epipogium L.

Tegeirian yw'r Galdrist rithiol (neu weithiau Degeirian y cysgod) sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Orchidaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Epipogium aphyllum a'r enw Saesneg yw Ghost orchid.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Tegeirian y Cysgod.[2]

Mae'r Galdrist rithiol ymhlith planhigion mwyaf prin yng ngwledydd Prydain: dim ond mewn tua 11 o lefydd maent yn tyfu: yn y Chilterns a gorllewin canolbarth Lloegr, ond mae eu hunion leoliad yn gyfrinachol. Ni welwyd yr un rhwng 1987 a 2008 a chredid eu bod wedi'u difodi'n llwyr.

Enw a chynefin

[golygu | golygu cod]

Gwyn hufen i frown pincaidd yw ei liw a thyf mewn coedwigoedd tywyll a chysgodol - sy'n egluro’i enw. Diffyg cloroffyl sy'n gyfrifol am ei liw; mae'n baraseit ffyngau sy'n gysylltiedig â gwreiddiau coed, felly nid oes angen iddo gynhyrchu ei fwyd ei hun trwy ffotosynthesis.

Mae'n blanhigyn blodeuol nodedig ac fel eraill o deulu'r Orchidaceae, mae'r blodau'n hynod liwgar ac yn cynhyrchu arogl da. Enw'r genws yw Orchis, sy'n tarddu o Hen Roeg ὄρχις (órkhis), sy'n golygu caill; mae hyn yn cyfeirio at gloron deuol rhai tegeirianau.[3]

Specimens

[golygu | golygu cod]

Darnau o risomau a gasglwyd gan Eleanor Vachell ym 1926 yw'r unig ddau sbesimen Prydeinig sydd ar gael, ac mae'r ddau, bellach, yn nwylo Amgueddfa Cymru ar ôl bod ar wahân am 84 o flynyddoedd. Ym 1953, casglodd Rex Graham, mab Elsie a oedd yn ffrind mynwesol i Eleanor, nifer o enghreifftiau o'r planhigyn wedi iddo ddod ar draws 22 Galdrist rithiol mewn coedwig yn Swydd Buckingham, sef y gytref fwyaf erioed yng ngwledydd Prydain o'r galdrist rithiol.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Gwefan Amgueddfa Cymru; adalwyd 23 Awst 2016.
  3. Joan Corominas (1980). Breve Diccionario Etimológico de la Lengua Castellana. Ed. Gredos. t. 328. ISBN 84-249-1332-9.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: