Enghraifft o: | anatomical cluster type, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | clwstwr anatomegol heterogenaidd, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | clust |
Cysylltir gyda | y glust allanol, y glust fewnol |
Yn cynnwys | drwm y glust, tympanic cavity, esgyrnyn, tensor tympani muscle, stapedius muscle, mastoid antrum, aditus to mastoid antrum, mastoid cell, muscle of auditory ossicle |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y glust ganol yw'r rhan o'r glust sydd rhwng drwm y glust a'r ffenestr hirgrwn. Mae'r glust ganol yn trosglwyddo sain o'r glust allanol i'r glust fewnol. Mae'r glust ganol yn cynnwys y tri esgyrnyn: y morthwyl, yr eingion a'r gwarthol, y ffenestr hirgrwn, y ffenestr gron a'r tiwb Eustachio[1].
Swyddogaeth y glust ganol yw trosglwyddo sain o'r glust allanol i'r glust fewnol
Yn arferol, pan fod tonnau sain mewn aer yn taro hylif, mae'r rhan fwyaf o'r ynni yn cael ei golli trwy gael ei adlewyrchu oddi ar wyneb yr hylif. Mae strwythur y glust ganol yn caniatáu i'r glust oresgyn y broblem o rwystro sain rhag teithio o aer i system o hylifau a philenni'r glust fewnol.
Mae'r glust ganol yn defnyddio "fantais fecanyddol" yr "egwyddor hydrolig" a'r "egwyddor lifer" i gynyddu sŵn. Mae'r rhan o'r drwm y glust sy'n dirgrynu sawl gwaith yn fwy nag arwynebedd droed y gwarthol sy'n cysylltu â'r ffenestr hirgrwn. Ar ben hynn y mae siâp darnau cymalog yr esgyrnynnau yn gweithio fel lifer. Mae coes hir y morthwyl yn gweithio fel braich hir lifer. Mae corff yr eingion yn gweithio fel ffwlcrwm lifer ac mae coes fer yr eingion yn gweithio fel braich fach lifer. Trwy hynny bydd faint y pwysau bydd yn cael ei daro ar y ffenestr hirgrwn gan droed y gwarthol hyd at ugain gwaith y pwysau wnaeth ymadael a drwm y glust[2].
Ymysg y broblemau meddygol sy'n gallu effeithio ar y glust ganol yw