Y nifer a bleidleisiodd mewn etholiad yw canran y pleidleiswyr cymwys sy'n bwrw pleidlais mewn etholiad. Mae pwy sy'n gymwys yn amrywio yn ôl gwlad, ac ni ddylid ei gymysgu gyda chyfanswm y boblogaeth sy'n oedolion, er enghraifft, mae rhai gwledydd yn gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, a / neu grefydd; oedran a dinasyddiaeth, fel arfer yw'r prif feini prawf o gymhwysedd. Ystyrir canran isel yn beth drwg a chanran uchel yn beth da.
Ceir gwahaniaethau enbyd rhwng gwahanol wledydd. Er enghraifft, yn yr etholiad am Arlywydd yn yr Unol Daleithiau yn 2008, pleidleisiodd 61% o'r etholaeth, sy'n ffigwr isel.[1][2] Ym Malta, ar y llaw arall mae'r ganran fel arfer oddeutu 95%; yn Refferendwm yr Alban, 2014, roedd y nifer a bleidleisiodd (ar gyfartaledd) yn 84.6%, sef y nifer uchaf a gafwyd mewn unrhyw etholiad mewn unrhyw ran o wledydd Prydain erioed.[3]