Yanto Barker

Yanto Barker
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnYanto Barker
Dyddiad geni6 Ionawr 1980
Taldra1.82m
Pwysau69kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
2000
2003
2005
2006
2007
Linda McCartney Foods
MBK - Oktos
Driving Force Logistics
Driving Force Logistics - Cycling News - Litespeed
Wedi ymddeol
Golygwyd ddiwethaf ar
19 Medi 2007

Seiclwr ffordd proffesiynol o Gymru ydy Yanto Barker (ganwyd 6 Ionawr 1980 yng Nghaerfyrddin[1]). Ef orffenodd yn y safle uchaf y Tour of Britain, 2005, o drigolion gwledydd Prydain. Er iddo fod yn llwyddiannus iawn tra yng nghategori Iau rasio (16-18), dim ond 15 oed oedd Yanto pan ddechreuodd rasio, ymunodd â Mid Devon Cycling Club. Cyd-ddigwyddiad ydyw mai llywydd y clwb hwnnw ydy Colin Lewis, Cymro a chyn seiclwr proffesiynol.

Wedi ennill Pencampwriaeth Cenedlaethol Iau, Rasio Ffordd Prydain, dewiswyd ef i gynyrchioli Prydain ym Mhencampwriaethau Iau'r Byd a gorffennodd yn yr 11eg safle[2]. Bu'n byw yng Nghymru fel plentyn ond symudodd ei deulu i Ddyfnaint. Yn 1999, wrth droi'n 19 oed, symudodd i'r categori hŷn a dewiswyd ef i reidio dros Dîm Cenedlaethol Prydain dan 23 oed. Cafodd ei dalu am hyn a symudodd o Ddyfnaint i Fanceinion i fod yn nes i'r trac a'r tîm meddygol. Erbyn 2000, roedd llai o arian ar gael felly ar gyngor hyfforddwr, symudodd i fyw i Ffrainc, tra'n 20 oed, i allu ennill profiad o rasio tramor[1]. Cynrychiolodd Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Melbourne yn 2006 ond ymddeolodd o seiclo proffesiynol yn 2007, a dychwelodd i fyw i Ddyfnaint.

Canlyniadau

[golygu | golygu cod]
1998
1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Iau, Rasio Ffordd Prydain
2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Cymru, Rasio Ffordd
11fed Pencampwriaethau Iau'r Byd, Rasio Ffordd
2002
12fed Pencampwriaethau Odan 23'r Byd, Rasio Ffordd
2003
1af Cyfres Cwpan Mavic (DIV 1, FRA)
2il Course La Ville, Cyfres Cwpan Mavic (DIV 1, FRA)
1af Cam 1, Circuit Des Mines (FRA 2.5)
2il Cam 3, Circuit Des Mines (FRA 2.5 UCI)
2004
1af Cyfres Cwpan Mavic (DIV 1, FRA)
5ed GP Rougy, Cyfres Cwpan Mavic (FRA 1.6 UCI)
1af GP Carelleur
2il Tour De Franch Compte (4 diwrnod)
4ydd G.C Nord Isaire (FRA 2.6 UCI)
8ed Cam 1, Circuit Des Mines (FRA 2.5 UCI)
8ed Cam 1, Tour of Britain (Manceinion - Manceinion)
9ed Cam 5, Tour of Britain (San Steffan - Llundain)
13ydd Cam 3, Tour of Britain (Bakewell - Nottingham)
2005
3ydd Pencampwriaeth Cenedlaethol, Rasio Ffordd Prydain
1af Ras Sawl Cam Surrey Pum Diwrnod
2il East Yorkshire Classic
2il Havant GP (GB 1.2 UCI)
3ydd Pencampwriaeth Cenedlaethol, Rasio Ffordd Prydain
3ydd Cymal o Gyngrhair Surrey, 'Eastway Classic'/'Taunton Criterium'
4ydd Cam 4, Circuit des Ardennes (Charleville-Mézières)
4ydd FBD Insurance Rás (IRE 2.2 UCI)
3ydd Cam 7 FBD Insurance Rás (Rathdrum - Wicklow)
5ed Cam 6, FBD Insurance Rás (Abbeyleix - Rathdrum)
6ed Paris Troyes (FRA 1.2 UCI)
6ed Rout Tourangelle (FRA 1.2 UCI)
8fed Lincoln International Grand Prix
9fed Tour of Britain
6ed Cam 1, Tour of Britain (GB 2.1 UCI)
10fed Hel Nan Het Mergelland (NED 1.1 UCI)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]