Marchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Jonathan Swift Award, Prix de l’Académie de Berlin, Prif Wobr y Theatr, Prix mondial Cino Del Duca
Awdur o Ffrainc yw Yasmina Reza (ganwyd 1 Mai1959) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor, ieithydd, cyfieithydd, dramodydd a nofelydd. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Art (1994), Une Désolation (2001) a Le Dieu du carnage (2006). Roedd llawer o'i dramâu dychanol byr yn adlewyrchu materion dosbarth canol cyfoes.
Cafodd ei geni ym Mharis ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Gorllewin Paris a Nanterre La Défense.[1][2][3][4]
Roedd tad Reza yn beiriannyddIddewig, yn ddyn busnes ac yn bianydd ac roedd ei mam yn feiolinydd Hwngaraidd-Iddewig o Budapest.
Ar ddechrau ei gyrfa, actiodd Reza mewn sawl drama newydd yn ogystal â dramâu gan Molière a Marivaux.
Yn 1987 ysgrifennodd Sgyrsiau ar ôl Claddedigaeth, a enillodd Wobr Molière, am yr Awdur Gorau. Cafodd y ddrama ei pherfformio am y tro cyntaf yng Ngogledd America yn Chwefror 2013 yn theatr Players By The Sea yn Jacksonville Beach Florida. Y cyfarwyddwyr oedd Holly Gutshall a Joe Schwarz, gydag Anne Roberts yn cynlluniydd golygfeydd. Ymhlith cast cyntaf yn yr Unol Daleithiau roedd Kevin Bodge, Paul Carelli, Karen Overstreet, Dave Gowan, Holly Gutshall ac Olivia Gowan Snell. Cyfieithodd Reza fersiwn lwyfan Polanski o Metamorphosis Kafka ar ddiwedd y 1980au.
[5]
Ym 1994, ymddangosodd Art am y tro cyntaf ym Mharis ac enillodd Wobr Molière am yr Awdur Gorau. Ers hynny mae'r ddrama wedi cael ei chynhyrchu ledled y byd a'i chyfieithu a'i berfformio mewn dros 30 o ieithoedd. Derbyniodd cynhyrchiad Llundain, a gynhyrchwyd gan David Pugh a Dafydd Rogers, Wobr Laurence Olivier a Gwobr yr Evening Standard 1996–97. Enillodd Wobr Tony am y Ddrama Gorau hefyd. Mae Bywyd X 3 hefyd wedi'i chynhyrchu yn Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Trodd ei llaw at sgwennu sgriptiau hefyd, gan gynnwys Welai Di Fory, gyda Jeanne Moreau yn serennu a'i chyfarwyddo gan Didier Martiny, partner Reier ar y pryd.
Ym Medi 1997, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Hammerklavier, a chyhoeddwyd gwaith ffuglen arall, Une Désolation, yn 2001. Cafodd ei gwaith L'Aube le Soir ou la Nuit (2007), a ysgrifennwyd yn dilyn ymgyrch Nicolas Sarkozy, gryn sylw yn Ffrainc.[6]
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Marchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Jonathan Swift Award (2020), Prix de l’Académie de Berlin (2022), Prif Wobr y Theatr, Prix mondial Cino Del Duca (2024)[7][8] .
↑Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, WikidataQ36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014