Yr amser pan fo person yn dewis stopio gweithio'n llwyr ydy ymddeoliad.[1][2] Gall berson gymryd ymddeoliad-rhannol hefyd drwy leihau'r nifer o oriau maent yn gweithio.
Mae nifer o bobl yn dewis ymddeol pan maent yn gymwys am bensiwn preifat neu gyhoeddus. Serch hynny, mae rhai pobl yn cael eu gorfodi i ymddeol pan fo'u cyflwr corfforol yn golygu nad ydynt yn medru cyflawni eu swyddi bellach (e.e. drwy salwch neu ddamwain). Weithiau hefyd bydd deddfwriaeth yn datgan nad oes hawl ganddynt i barhau i weithio.[3] Yn y mwyafrif o wledydd, mae'r syniad o ymddeoliad yn rhywbeth gymharol newydd a gyflwynwyd yn ystod y 19fed a'r 20g. Cyn hynny, golygai disgwyliad oes byr a diffyg trefniadau pensiwn fod y rhan fwyaf o weithwyr yn parhau i weithio tan eu bod yn marw. Yr Almaen oedd y wlad gyntaf i gyflwyno ymddeoliad yn ystod y 1880au.