Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Daeth i ben | 2 Ebrill 2017 |
Dechrau/Sefydlu | 1 Ionawr 2007 |
Rhagflaenydd | Board of Governors of the BBC |
Olynydd | BBC Board |
Pencadlys | Llundain |
Gwefan | http://www.bbc.co.uk/bbctrust |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymddiriedolaeth y BBC (Saesneg: BBC Trust) oedd corff penderfynu’r Corfforaeth Ddarlledu Brydeinig, BBC, rhwng 2007 a 2017. Roedd yn annibynnol ar gyrff rheoli a gweithredol, a’i nod oedd gweithredu er budd gwylwyr a oedd yn talu ffi’r drwydded deledu.
Crëwyd yr Ymddiriedolaeth trwy Siarter Frenhinol ar 1 Ionawr 2007, gan ddisodli Bwrdd y Llywodraethwyr.
Yn hwyr yn 2012 roedd Ymddiriedolaeth y BBC wedi ei siglo pan ddatgelodd y wasg fod y BBC wedi gwrthod darlledu rhaglen ddogfen am y cyflwynydd pedoffiliaid, Jimmy Savile.[1].
Yn 2014, pan lansiodd y BBC ei wasanaeth trwyddedu rhyngwladol, Ymddiriedolaeth y BBC oedd ei phrif gorff rheoli.[2]
Argymhellodd Adroddiad Clementi 2016 y dylid trosglwyddo trefniadau llywodraethu’r BBC i Ofcom a datgymalu Ymddiriedolaeth y BBC.[3][4] Disodlwyd Ymddiriedolaeth y BBC ar 2 Ebrill 2017 gan Fwrdd y BBC pan ddaeth y Siarter Frenhinol newydd i rym.
Gwelir Ymddiriedolaeth y BBC fel meincnod ym maes darlledu cyhoeddus oherwydd nad oes yr un o'i haelodau yn seneddwyr. Bwriad y dewis o aelodau, a ddaw o'r diwydiant darlledu, gan y Frenhines oedd nodi eu hannibyniaeth oddi wrth arweinwyr prif bleidiau'r llywodraeth.[5].
Yn ôl y Siarter Frenhinol, prif rôl Ymddiriedolaeth y BBC yw goruchwylio strategaeth reoli’r BBC, a goruchwylio gwaith y Bwrdd Gweithredol, i gyd er budd y cyhoedd.[6]
Cyfnod | Enw |
---|---|
1 Ion. 2007 - 30 Ebr. 2007 | Chitra Bharucha (interim) |
1 Mai 2007 - 1 Mai 2011 | Michael Lyons |
1 Mai 2011 - 6 Mai 2014 [7] | Chris Patten |
6 Mai 2014 [7] - 8 Hyd. 2014 | Diane Coyle (interim) |
9 Hyd. 2014[8] - 2 Ebr. 2017 | Rona Fairhead |
Nid oedd gan yr Ymddiriedolaeth reolaeth na dylanwad dros S4C gan bod gan y Sianel Gymraeg Siarter Brenhinol ei hun. Ond roedd yn ymwneud â gorsafoedd radio yn yr ieithoedd brodorol a'r cenhedloedd Celtaidd: BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, BBC Radio Scotland, BBC Radio nan Gàidheal, BBC Radio Ulster, BBC Radio Foyle a BBC Alba.[9]
Bu i'r Ymddiriedolaeth hefyd chwarae rhan weithredol wrth sefydlu sianel Gaeleg BBC Alba. Yn 2007, agorodd Ymddiriedolaeth y BBC ymgynghoriad ar wasanaeth digidol Gaeleg mewn partneriaeth â Gaelid Media Service a arweiniodd at sefydlu'r sianel yn 2008.
Mae BBC Alba yn unigryw gan mai hi yw’r sianel gyntaf i gael ei darparu o dan drwydded BBC gan bartneriaeth yn ogystal â bod y sianel aml-genre gyntaf i ddod yn gyfan gwbl o’r Alban gyda bron pob un o’i rhaglenni wedi’u gwneud yn yr Alban.[10][11]