Enghraifft o: | chwaraeon i wylwyr, chwaraeon anghyfreithlon ![]() |
---|---|
Math | chwaraeon gwaed ![]() |
![]() |
Chwaraeon gwaed rhwng dau geiliog mewn cylch a elwir yn dalwrn-ceiliogod yw ymladd ceiliogod. Mae'n chwaraeon sydd erbyn hyn yn anghyfreithlon yn yr Unol Daleithiau, Brasil a'r rhan helaeth o Ewrop.[1]
Daeth esgyrn ffowls domestig i'r fei yn ardal fferm Magna Castra ger Henffordd heb fod ymhell o safle Rufeinig lle y canfuwyd esgyrn drudwennod Sturnus vulgaris mewn wrn neu biser Rufeinig yn haf 1923. Esgyrn gwrywaidd, hynny yw, 'ceiliogod', oedd ffowls gan fod coesau'r sgerbydau yn cynnwys ysbardunau nodweddiadol y ceiliog. A yw hyn yn dystiolaeth o ymladd ceiliogod yn yr ardal yn y cyfnod Rhufeinig?[2]