2,145 wedi eu lladd (1,462 yn sifiliaid)[8] (ffynhonnell: Canolfan Iawnderau Palesteina)
Lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014 (Hebraeg: מִבְצָע צוּק אֵיתָן, Mivtza' Tzuk Eitan, yn llythrennol: "Ymgyrch y Clogwyni Cedyrn"; Saesneg: Operation Protective Edge) ar 8 Gorffennaf 2014 gan Lu Amddiffyn Israel (IVF) yn swyddogol yn erbyn aelodau o Hamas ond erbyn 28ain o Awst roedd 2,145 o Balisteinaidd wedi eu lladd[9][10][11] (80% sifiliaid) a 10,895 o Balesteiniaid wedi'u hanafu.[12][13] Yn y cyfamser, lladdwyd 6 o sifiliaid Israelaidd. Cafwyd ymateb rhyngwladol chwyrn - gan mwyaf yn cytuno bod ymateb milwrol Israel yn rhy lawdrwm ("disproportional").
Roedd yr ymosodiad hwn gan Israel yn dilyn sawl ffactor gan gynnwys lladd tri bachgen; ac roedd awdurdodau Israel yn beio Hamas. Gwadodd Hamas unrhyw gysylltiad â llofruddiaeth y tri bachgen. Ffactorau cefndirol eraill oedd bod cyflwr bywyd yn y Llain Gaza wedi gwaethygu'n arw ers ei droi'n warchae yn 2005 a methiant cynlluniau Unol Daleithiau America i greu cynllun heddwch derbyniol.[14] Yn y gwrthdaro dilynol lladdodd byddin Israel 8 o Balesteiniaid ac arestiwyd cannoedd o bobl ganddynt. Ymatebodd Hamas drwy ddweud na fyddai'n ymatal hyd nes bod Israel yn rhyddhau'r bobl hyn.[15]
Erbyn y 12fed taniwyd 525 roced o Lain Gaza i gyfeiriad Israel ac ataliwyd 118 ohonynt gan system arfau Iron Dome Israel.[16] Credir bod 22 o sifiliaid Israelaidd wedi derbyn mân-anafiadau.
Yr ymosodiad hwn oedd y mwyaf gwaedlyd yn Gaza ers 1957.[17] Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai y Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor Ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.
Cyhoeddodd Amnest Rhyngwladol nad oedd unrhyw dystiolaeth bod sifiliaid wedi cael eu defnyddio fel tariannau i amddiffyn arfau neu bersonél. Cyhoeddodd Human Rights Watch fod ymateb llawdrwm Israel yn "disproportionate" and "indiscriminate".[18]
13 Taniodd Israel 1,300 o rocedi i'r Llain Gaza, y rhan fwyaf gan awyrennau isel a thaniwyd 800 roced o'r Llain i gyfeiriad Israel.
16 Gorffennaf: Cyflwynodd Hamas a'r Mudiad Jihad Islamaidd ym Mhalesteina gadoediad 10-mlynedd gyda deg prif feincnod.[19]
17 Gorffennaf: yn ystod y bore bach, cytunodd y ddwy ochr i argymhelliad y Cenhedloedd Unedig o gadoediad am bum awr[20][21] a digwyddodd hyn rhwng 10yb a 3.00yp.[22] Am 10.30yh cyhoeddodd yr orsaf deledu IDF fod milwyr traed byddin Israel wedi mynd i mewn i Lain Gaza[23] a chadarnhawyd hyn gan Ysgrifennydd Amddiffyn Israel, Moshe Ya'alon.[24] Mynegodd yr Aifft mai bai Hamas oedd hyn gan iddynt dorri'r cadoediad.[25] Yn ogystal â milwyr traed ceir tystiolaeth o danciau'n saethu at Ysbyty yn Gasa.[26][27]
20 Gorffennaf: byddin Israel yn brwydro eu ffordd i mewn i ran o ddinas Gaza (maestref Shuja'iyya).
24 Gorffennaf: 10,000 - 15,000 o Balesteiniaid yn y Lan Orllewinol yn protestio yn erbyn triniaeth eu cydwladwyr Palesteinaidd yn Gaza. Lladdwyd 2 ohonynt ac anafwyd 265 o Balesteiniaid.[28][29][30]
26 Gorffennaf: cadoediad am 12 awr,[31] ac yna 24 awr arall yn dilyn hynny.[32]
28 Gorffennaf: Y Pab Ffransis yn galw ar y ddwy ochr i ymatal, gan ddweud "I think of the children who are robbed of the hope of a dignified life, of a future. Dead children, wounded children, orphans, children who have for toys the debris of war." Ar y diwrnod y dywedodd hyn, amcangyfrifir bod 251 o blant Palesteinaidd wedi'u lladd, a dim un plentyn Israelaidd.[33]
5 Awst: Tanciau a milwyr Israel yn gadael y Llain; tridiau o gadoediad yn cael ei gyhoeddi. Hyn yn cael ei ymestyn.
Mae'r ymateb o du gwledydd eraill yn amrywio o'r naill begwn i'r llall. Er enghraifft ar 9 Gorffennaf 2014, ffoniodd Canghellor yr AlmaenAngela Merkel Benjamin Netanyahu i gollfarnu "without reservation rocket fire on Israel".[34] Ymateb Gweinidog Materion Tramor Iwerddon drwy ddweud, "(We are) gravely concerned at the escalating violence and civilian casualties" a'i fod yn collfarnu'r ddwy ochr yn gyfartal ac apeliodd am gadoediad."[35] Condemniodd Llywodraeth Pacistan (ar 9 Gorffennaf) y trais a'r lladd yn Gasa a achoswyd gan ffyrnigrwydd Israel.[36]
Ymddiswyddodd Baronness Warsi fel Gweinidog gan ddweud na fedrai gytuno â Pholisi Llywodraeth Prydain ac, “It appals me that the British government continues to allow the sale of weapons to a country, Israel, that has killed almost 2,000 people, including hundreds of kids, in the past four weeks alone. The arms exports to Israel must stop.” Ymatebodd y Prif Weinidog David Cameron drwy ddweud, “I understand your strength of feeling on the current crisis in the Middle East – the situation in Gaza is intolerable.”.[37]
Human Rights Watch: "Palestinian rocket attacks on Israel appear to be indiscriminate or targeted at civilian population centers, which are war crimes, while Israeli attacks targeting homes may amount to prohibited collective punishment."[38]
Mae sawl mudiad dyngarol e.e. Amnesty Rhyngwladol,[39][40] B'Tselem[41] a Human Rights Watch[42] wedi datgan bod Israel yn gyfrifol am dorri deddfau rhyfel o dan cyfreithiau rhyngwladol dry ladd sifiliaid a dinistrio cartrefi sifiliaid.[43] Mynegodd Uwch Gomisiynydd Hawliau Iawnderau Dynol y Cenhedloedd Unedig hefyd fod yna "bosibilrwydd cryf" bod Israel wedi torri deddfau rhyngwladol "in a manner that could amount to war crimes".[44] Mae'r C.U. hefyd wedi condemnio Hamas o anelu ei rocedi at sifiliaid Israelaidd a chydnabyddodd Navi Pillay,[30] Llysgennad Palesteina yng Nghyngor Hawliau Dynol y C.U. fod Hamas wedi torri deddfau rhyngwladol drwy wneud hyn.[45]
Ymosodwyd ar rai o'r prostestwyr heddychlon fu'n mynychu'r protest yn erbyn y rhyfel yn Tel Aviv gan eithafwyr Israelaidd adain-dde.[46] Ar 21 Gorffennaf caewyd stryd fawr Nazareth yn llwyr wrth i fusnesau a thrigolion y dref uno gyda phrotest cyffredinol yn erbyn ymosodiad pythefnos oed gan Israel ar y Palesteiniaid yn Gaza. Arestiwyd dros 700 o gan heddlu Israel. Cafwyd protestiaidau tebyg drwy Israel.[47]
Cynhaliwyd hefyd sawl protest o blaid Israel yn yr UDA ond roedd mwyafrif helaeth y protestiadau, mewn llawer o wledydd ledled y byd, yn erbyn gweithredoedd Israel gan gynnwys: