Ymarferiad calisthenig yw'r ymwthiad[2] neu'r byrfraich.[3][4] Gwneir drwy orwedd ar eich blaen ac yn gwthio'r corff i fyny ac i lawr gyda'r breichiau.[5]
Ceir nifer o amrywiadau i'r ymarferiad hwn, gan gynnwys yr ymwthiad uchel, yr ymwthiad ochr i ochr, yr ymwthiad unfraich, a'r ymwthiad curo dwylo. Mae'r dand, neu'r gwthio i fyny Hindŵaidd, yn amrywiad arall sy'n gweithio'r craidd yn ddeinamig.[6]