Math | segment o linell, polytop |
---|---|
Rhan o | polytop |
Tair ymyl AB, BC, a CA, gyda phob un rhwng dau fertig y triongl. |
Mae'r polygon yn cael ei ffinio gan ymylon; mae gan y sgwâr hwn 4 ymyl. |
Ceir dwy ochr (arwynebau) o bobtu pob ymyl, fel yn y ciwb hwn. |
Mae pob ymyl yn cael ei rannu gan dri neu ragor o ochrau, mewn polytop-4, fel y gwelir yn y tafluniad yma o'r teseract. |
Ym maes geometreg, mae ymyl yn ffin, neu'n fan ble mae dwy ochr yn cyfarfod. Ym myd polygonau a pholyhedronau gellir ei ddiffinio fel math o linell segment sy'n cysylltu dau fertig ('corneli'). Pan fo'r segment rhwng dau fertig yn pasio y tu allan neu'r tu fewn i bolyhedron neu bolytopau uwch-ddimensiwn, gelwir ef yn "groeslin".[1][2][3]
Gall 'ymyl' fod yn air gwrywaidd neu fenywaidd.[4]
Mae gan ochrau bob polygon amgrwm nodweddion Euler:
ble mae V yn cynrychioli'r fertigau, E yw'r nifer o ymylon ac F yw'r nifer o ochrau. Mae'r hafaliad hwn yn cael ei nabod fel "fformiwla polyhedron Euler". Gwelir yma fod y nifer o ochrau'n ddau yn llai na chyfanswm y fertigau ac ochrau. Er enghraifft mae gan y ciwb 8 fertig a 6 ochr, ac felly ceir 12 ymyl.