![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 0 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 40 acre ![]() |
Gerllaw | Môr Iwerddon ![]() |
Cyfesurynnau | 52.1314°N 4.6889°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Ynys fechan anghyfanedd o tua 40 erw yw Ynys Aberteifi (Saesneg: Cardigan Island), a leolir i'r gogledd o dref Aberteifi, Ceredigion, yn ne Bae Ceredigion. Fe'i lleolir yng nghumuned Y Ferwig.[1] Mae'n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur Gorllewin Cymru.
Mae'n gorwedd tua 200-300 llath oddi ar y lan yn aber Afon Teifi, gyferbyn i'r penrhyn o dir sy'n ymestyn i'r môr i'r gogledd o bentref Gwbert. Mae'n adnabyddus am ei goloni o forloi llwyd. Gellir gweld nifer o adar y môr yno yn ogystal.