Math | ynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2319°N 4.1523°W |
Ynys fechan yn Afon Menai sy'n gorwedd rhwng Ynys Môn ac Arfon yw Ynys Castell (cyfeiriad OS: SH 564727). Saif yng nghymuned Cwm Cadnant.
Mae'r ynys yn graig ymwthiol o schist Cyn-Gambriaidd sy'n gorwedd ar ymyl aber Afon Cadnant, oddi ar arfordir deheuol Môn, rhwng Ynys y Bîg ac Ynys Gaint. Mae sarn a orchuddir pan fo'r llanw'n uchel yn cysylltu'r ynys â'r brif ynys. Ceir tŷ preifat arni.