Math | ynys mewn afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Niagara Falls State Park |
Sir | Niagara Falls |
Gwlad | UDA |
Uwch y môr | 558 troedfedd |
Gerllaw | Afon Niagara |
Cyfesurynnau | 43.0806°N 79.0667°W |
Mae Ynys Gafr yn ynys fechan ar Afon Niagara, ar ben Rhaeadr Niagara, rhwng y Rhaeadr Fêl Priodasol a'r Rhaeadr Pedol. Yn weinyddol, mae'n rhan o Ddinas Niagara yn Nhalaith Efrog Newydd, ac yn rhan o Barc Genedlaethol Rhaeadr Niagara. Mae pontydd rhwng yr ynys a thir mawr y ddinas.
Ar un adeg, cadwyd geifr ar yr ynys gan John Stedman. Swydd Stedman efo'r fyddin Brydeinig oedd trefnu cludiant nwyddau heibio'r rhaeadr yn ystod y 18g. Hawliodd o bod y llwyth Seneca wedi rhoi'r ynys iddo yn 1764. Cymerodd dalaith Efrog Newydd yr ynys oddi wrtho ym 1801.[1]
Rhoddwyd i'r ynys yr enw "Ynys Iris", enw duwies Groegaidd yr enfys, ond doedd yr enw ddim yn boblogaidd.[1]