Math | ynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.23°N 4.16°W |
Mae Ynys Gaint yn ynys fechan yn Afon Menai gerllaw tref Porthaethwy ar Ynys Môn (SH561725), rhwng Ynys Faelog ac Ynys Castell. Gellir cerdded i'r ynys ar hyd sarn o Borthaethwy.
Rhwng 1942 a 1944 yr oedd gan y Llu Awyr Brenhinol uned achub o'r môr yma, gyda nifer o gychod cyflym. Heddiw mae rhan sylweddol o'r ynys yn wersyll yn perthyn i'r fyddin.