Math | pont grog, pont droed, ynys |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.03 km² |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.3068°N 4.6988°W |
Hyd | 0.26 cilometr |
Ynys fach ar benrhyn mwyaf gorllewinol Ynys Gybi, ar Fôn, ydy Ynys Lawd, a gysylltir ag Ynys Gybi gan bont fach, tua milltir i'r gorllewin o Fynydd Twr. Mae yng nghymuned Trearddur. Mae llwybr, gyda 400 o grisiau, yn disgyn i’r bont, 30 medr o hyd ar draws y môr i’r ynys. Ymgylchynu’r ynys gan glogwyni llithfaen, yn codi hyd at 60 medr uwchben y môr.[1] Mae mynediad i gŵn ar yr ynys.
Daw'r enw Saesneg South Stack o'r gair Sgandinafaidd stak, sef "ynys" (gweler hefyd Ynys Arw, a elwir North Stack yn Saesneg). Ystyr arferol y gair Cymraeg lawd yw "gwres", sef gwres anifeiliad yn neilltuol, ond mae arwyddocâd yr enw yn yr achos hwn yn ddirgelwch.
Ceir goleudy enwog, Goleudy Ynys Lawd, ar yr ynys sydd bellach yn atyniad twristaidd. Codwyd y goleudy cyntaf ar Ynys Lawd yn 1809.[2] Dyluniwyd y goleudy 91 troedfedd (28 m) o daldra ar Ynys Lawd gan ddyn o'r enw Daniel Alexander ac mae'r prif golau i'w weld gan longau sy'n pasio ac fe'i cynlluniwyd i ganiatáu i longau deithio'n ddiogel ar y llwybr môr peryglus rhwng Dulyn, Caergybi a Lerpwl.
Mae Gwarchodfa Natur Ynys Lawd, un o warchodfeydd yr Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ar yr ynys a'r clogwyni gerllaw.