![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tywysog Arthur, Dug Connaught a Strathearn ![]() |
Poblogaeth | 0 ![]() |
Cylchfa amser | UTC−07:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago ![]() |
Sir | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 15,848 km² ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Arctig ![]() |
Cyfesurynnau | 76.75°N 119.5°W ![]() |
Hyd | 240 cilometr ![]() |
![]() | |
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Prince Patrick (Saesneg: Prince Patrick Island). Mae'n un o Ynysoedd Queen Elizabeth, gydag arwynebedd o 15,848 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin.
Amgylchynir yr ynys gan rew am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ac mae'n un o ardaloedd mwyaf anhygyrch Canada. Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd ymgyrch dan arweiniad Francis Leopold McClintock yn 1853. Enwyd hi, yn ddiweddarach, ar ôl y Tywysog Arthur William Patrick, dug Connaught, fu'n rhaglaw Canada (1911-16).