![]() | |
Enghraifft o: | canolfan y celfyddydau, oriel gelf, sefydliad elusennol ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1881 ![]() |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
![]() | |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol ![]() |
Rhanbarth | Conwy ![]() |
Gwefan | http://rcaconwy.org/ ![]() |
Sefydliad annibynnol sy'n ymwneud â rhagoriaeth ym myd celf yng Nghymru yw'r Academi Frenhinol Gymreig (Saesneg: Royal Cambrian Academy). Lleolir ei phrif oriel ger Plas Mawr yn nhref Conwy, Sir Conwy.
Sefydlwyd yr academi gan grŵp o artistiaid gyda ddiddordeb ynglyn a thirlun Gogledd Cymru. Cafodd artistiaid o Ogledd Cymru, Lerpwl a Manceinion cyfarfod â’i gilydd yng Nghyffordd Llandudno ym 1881, yn galw eu hunain "Academi Gelf Gymreig". Yn 1882 rhoddodd y Frenhines Victoria y teitl "Frenhinol" iddynt.[1] Yn yr un blwyddyn trefnodd yr academi arddangodfa enfawr yng Nghaerdydd, gyda chatalog o 200 tudalen. Yn 1885 rhoddodd Arglwydd Mostyn brydles ei blasdy Plas Mawr, Conwy, i'r academi am eu defnydd fel oriel.[1]
Yn 1994 adeiladodd yr academi oriel newydd tu ol i Plas Mawr, gan adael yr hen adeilad yn barhaol.[1]