Math | plasty gwledig ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trefynwy, Llangatwg Feibion Afel ![]() |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 50.8 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8231°N 2.78681°W ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Plasty o Oes Fictoria yn Sir Fynwy yw'r Hendre, a godwyd yn yr arddull Gothic. Fe'i lleolir yng nghymuned Llangatwg Feibion Afel, tua phedair milltir i'r gogledd-orllewin o Drefynwy. Yn y 18ed ganrif y cafodd ei godi ar gyfer saethu, ond cafodd ei ehangu gryn dipyn dair gwaith gan deulu Charles Stewart Rolls, un o ddau sefydlydd cwmni ceir Rolls Royce. Mae'r plasty wedi'i gofrestru gan Cadw fel Gradd II*.[1] Mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel rhan o Glwb Golff Trefynwy.
Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).[2]
Roedd yn arferiad ers talwm i ffermwyr symud eu hanifeiliaid yn y gwanwyn i dir uchel, a thros yr adeg yma byddent yn aros mewn cartref a alwant yn "hafod" (preswylfa'r haf); yn yr hydref, byddai'r teulu a'r anifeiliaid yn dod lawr i lawr y dyffryn - i'r "hendref".[3]
Mae gwreiddyn holl gyfoeth y teulu hwn o dirfeddianwyr yn mynd yn ôl i briodas gŵr o'r enw James James, Mynwy o blwyf Llanfihangel Ystum Llywern, Sir Fynwy a ymgartrefodd yn Llundain ac a etifeddodd ystâd enfawr yn Southwark, Surrey.[4]
Prynnodd nifer ffermydd a thiroedd yn Llanfihangel Ystum Llywern a Llangatwg Feibion Afel rhwng 1639 a 1648. Yn ei ewyllus a gyhoeddwyd yn 1677 gadawodd bopeth i'w unig blentyn sef merch o'r enw Sarah a'i gŵr Dr Elisha Coysh.[4] Cawsant ferch a briododd William Allen a prynnodd y ddau ychwaneg o diroedd yn Sir Fynwy.[4] Cawsant ferch na wyddom mo'i henw hithau ac a briododd ei chefnder cyntaf Thomas Coysh.[4] Aeth y cyfan i'w merch Sarah (m. 1801): holl etifeddiaeth teuluoedd Coysh, Allen a James. Priododd hithau John Rolls (1735–1801) a oedd yn enedigol o "the Grange", Bermondsey ac a ddaeth yn Siryf Sir Fynwy ym 1794.
James James, Mynwy | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Sarah | Dr. Elisha Coysh o Lundain | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
?Anhysbys? | William Allen | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
?Anhysbys? | Thomas Coysh (cefnder) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
John Rolls (1735–1801) o Bermondsey | Sarah (m. 1801) | Richard Coysh (dim plant) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
John Rolls o'r Hendre (1776–1837) | Martha Maria Barnet | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
John Etherington Welch Rolls (1807–70) | Elizabeth Mary Long | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
John Allan Rolls (1837–1912) (A.S. dros Sir Fynwy) | Georgiana Marcia Maclean (1837 – 1923) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
John Maclean Rolls (1870–1916) | Henry Alan Rolls (1871–1916) | Eleanor Georgiana Rolls (1872–1961) | Charles Stewart Rolls (1877–1910) (perchennog Rolls Royce) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||