Math | oriel gelf, amgueddfa genedlaethol, corff cyhoeddus anadrannol |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Agoriad swyddogol | 1856 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | National Portrait Gallery Board of Trustees |
Lleoliad | St Martin's Place |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5094°N 0.1281°W, 51.509242°N 0.127272°W |
Cod OS | TQ2999580611 |
Arddull pensaernïol | Pensaernïaeth Adfywiad y Dadeni |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
Mae'r Oriel Bortreadau Genedlaethol (Saesneg: National Portrait Gallery) yn oriel gelf yn Llundain. Mae ganddo gasgliad o bortreadau o bobl Brydeinig enwog o bwys hanesyddol. Hwn oedd yr oriel bortreadau gyntaf yn y byd pan agorodd ym 1856.[1]
Symudodd yr oriel ym 1896 i'w safle presennol yn St Martin's Place, oddi ar Sgwâr Trafalgar; mae'r adeilad y tu cefn i'r Oriel Genedlaethol. Mae wedi cael ei ehangu ddwywaith ers hynny. Nid yw wedi'i gysylltu ag Oriel Bortreadau Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin. Mae'r NPG yn gwango a noddir gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y Llywodraeth Brydeinig.
Mae gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol dau allbost rhanbarthol yn Beningbrough Hall, yn Swydd Efrog, a Montacute House yng Ngwlad yr Haf. Rhwng 1988 a 2018 bu gan yr oriel allbost yng Nghastell Bodelwyddan hefyd. Roedd yn arddangos 130 o bortreadau o'r casgliad. Oherwydd torri cyllid i gefnogi'r arddangosfa gan Gyngor Sir Ddinbych yn 2017 cafodd y portreadau eu dychwelyd i Lundain.[2]
Mae'r oriel yn gartref i bortreadau o bobl Brydeinig o bwys hanesyddol ac enwog, wedi'u dewis ar sail arwyddocâd yr eisteddwr, nid yr artist. Mae'r casgliad yn cynnwys ffotograffau a gwawdluniau yn ogystal â phaentiadau, lluniadau a cherfluniau.[3]
Un o'i ddelweddau mwyaf adnabyddus yw'r portread Chandos, y portread enwocaf o William Shakespeare[4] er bod peth ansicrwydd ynghylch a yw'r darlun yn perthyn i'r dramodydd mewn gwirionedd.[5]
Er bod enghreifftiau o waith gan artistiaid megis Richard Willson, John Singer Sargent, William Hogarth, Syr Joshua Reynolds ac artistiaid nodedig eraill yn y casgliad nid yw'r holl bortreadau yn eithriadol o artistig. Yn aml, mae gwerth chwilfrydedd yn fwy na gwerth artistig yn y gwaith, fel yn achos y portread o Edward VI gan William Scrots, darlun Patrick Branwell Brontë o'i chwiorydd Charlotte, Emily ac Anne, neu gerflun o'r Frenhines Victoria a'r Tywysog Albert mewn gwisg ganoloesol.
Mae rhai o'r darluniau megis y portread grŵp o fynychwyr cynhadledd Somerset House 1604 i ddathlu cytundeb heddwch rhwng Lloegr a Sbaen yn ddogfennau hanesyddol pwysig ynddynt eu hunain.[6]
Caniatawyd portreadau o ffigurau byw ym 1969.
Yn ogystal â'i orielau parhaol o bortreadau hanesyddol, mae'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn arddangos casgliad o waith cyfoes sy'n newid yn aml, yn cynnal arddangosfeydd o gelf bortreadau gan artistiaid unigol ac yn cynnal cystadleuaeth flynyddol Gwobr Bortread BP.
Mae gan yr Oriel lawer o bortreadau gan gerflunwyr. Mae'r cerflunwyr yn Brydeinwyr neu'n bobl sydd wedi byw ym Mhrydain yn bennaf, ac mae'r pynciau'n Brydeinig. Mae cerflunwyr yn cynnwys cerfluniau modern gan gerflunwyr fel Syr Jacob Epstein (14 enghraifft), y Fonesig Elisabeth Frink (5 enghraifft), a Syr Eduardo Paolozzi (pedwar cerflun hunanbortread).
Yn 2009, bu anghydfod cyfreithiol rhwng yr Oriel Bortreadau Genedlaethol ac un o olygyddion Wikipedia, a lawr lwythodd filoedd o atgynhyrchiadau cydraniad uchel o bortreadau oedd yn y parth cyhoeddus o wefan yr NPG, a'u gosod ar Gomin Wikimedia.[8] Hawliodd yr Oriel ei bod yn dal hawlfraint yn y delweddau digidol a lwythwyd i Gomin, a'i bod wedi gwneud buddsoddiad ariannol sylweddol wrth greu'r atgynhyrchiadau digidol hyn.
Yn 2012 trwyddedodd yr Oriel 53,000 o ddelweddau cydraniad isel dan drwydded Creative Commons, gan sicrhau eu bod ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer defnydd anfasnachol.[9]
Mae 87,000 o ddelweddau cydraniad uchel eraill ar gael at ddefnydd academaidd o dan drwydded yr Oriel ei hun sy'n gwahodd rhoddion am eu defnyddio; yn flaenorol, cododd yr Oriel tâl am ddelweddau cydraniad uchel.
|deadurl=
ignored (help)