Math | ysbyty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.42°N 4.07°W |
Rheolir gan | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Ysbyty cyffredinol yn Aberystwyth sy'n gwasanaethu Ceredigion a rhan sylweddol o'r Canolbarth yw Ysbyty Cyffredinol Bronglais. Lleolir yr ysbyty ddim ymhell o ganol y dref, ar Heol Caradog ar waelod allt Penglais. Lleolir pencadlys Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru, sy'n rheoli'r ysbyty, ar y safle.
Mae gan yr ysbyty 174 o wlau ar gyfer cleifion mewnol (a 12 gwely dydd). Mae'r rhanfwyaf o'r arbenigion clinigol i'w cael yno yn ogystal ac adran gwasanaethau brys.
Bu nifer o brotestiadau yn 2006 yn erbyn cynlluniau is-raddio'r ysbytu fel rhan o ail-strwytho'r Ymddiriedolaeth GIG.[1]
Ym mis Hydref 2009, datganwyd cynllun i wario £40 miliwn ar ailddatblygu'r ysbyty. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu sawl ward newydd, gan gynnwys ward mamolaeth a dymchwel hen stordai a'r maes parcio.[2]