Brwydr awyrennol rhwng awyrennau ymladd yw ysgarmes awyrennau neu ysgarmes awyr, yn enwedig ysgarmesu sy'n cynnwys manwfro o fewn graddfa agos rhwng awyrennau gwrthwynebol sy'n ymwybodol o'i gilydd. Ymddangosodd yn gyntaf yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ysgarmeswyr awyr enwog yn cynnwys yr archbeilotiaid Adolphe Pégoud, Max Immelmann, Oswald Boelcke, Manfred von Richthofen, ac Erich Hartmann.