Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin | |
---|---|
Adeiladau'r ysgol | |
Arwyddair | Heb Ddysg Heb Ddeall |
Sefydlwyd | 1978 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Dr Llinos Jones |
Cadeirydd | Parchedig Beti-Wyn James |
Lleoliad | Croesyceliog, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA32 8DN |
AALl | Cyngor Sir Gaerfyrddin |
Disgyblion | 950 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Llysoedd | Hengwrt , Hergest Llwydiarth , Peniarth |
Lliwiau | Lelog a du |
Gwefan | http://www.yggbm.org |
Ysgol uwchradd yng Nghroesyceiliog, Caerfyrddin ydy Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, mae'n gwasanaethu ardal tref Caerfyrddin, Dyffryn Tywi, a rhannau eraill o orllewin, gogledd, a de Sir Gaerfyrddin. Ers 2016 mae wedi bod yn ysgol categori 2CH ydyw, yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru. Mewn ysgol o'r fath addysgir pob pwnc ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl.[1] Y pennaeth presennol yw Dr Llinos Jones, hi yw'r pedwerydd olynydd i'r swydd ers sefydlu'r ysgol ym mis Medi 1978.
Roedd sefydlu'r ysgol yn 1978 yn gryn sialens gan nad oedd yr awdurdod addysg yn gweld galw uniongyrchol am addysg uwchradd Gymraeg, er bod sawl ysgol gynradd leol yn bodoli cyn hynny gan gynnwys, Ysgol y Dderwen yn nhref Caerfyrddin ei hun. Roedd adnoddau cyntefig iawn am ychydig dros bymtheg mlynedd.
Ail-leolwyd yr ysgol o Gaerfyrddin i safle newydd ger Croesyceiliog, mewn adeiladau eithaf safonol a modern. Lleolwyd yr ysgol gynt yng nghanol tref Caerfyrddin yn hen adeiladau Fictorianaidd yr ysgol ramadeg.
Yn ddiweddar mae'r ysgol wedi lansio ymgyrch i wella darpariaeth pynciau cyfoes megis Adeiladwaith a Thrin Gwallt ac ym Medi 2008 agorwyd y ganolfan Sgiliau, mewn cydweithrediad efo Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Ysgol Gyfun y Strade, ac Ysgol Gyfun Maes-Yr-Yrfa.
Cynhelir Eisteddfod Ysgol yn flynyddol yn neuadd yr ysgol, a cynhelir mabolgampau ar drac rhedeg Caerfyrddin, yn Nhre Ioan ger Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth.
Ysgol Bro Myrddin sydd â canlyniadau TGAU gorau yn Sir Gaerfyrddin, heblaw Ysgol Bonedd St. Michael's, Llanelli. Enillodd tua 84% o ddisgyblion graddau TGAU A*–C yn 2007, sydd yn ffigwr uchel. Mae'r ysgol yn rhoi pwyslais ar gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hyn yn cael ei hatgyfnerthu gan wasanaethau boreol, gwersi a phrofiadau niferus eraill o fewn a thu allan i'r ysgol.
Swydd | Enw |
---|---|
Pennaeth | Dr Llinos Jones |
Dirprwy Bennaeth | Mr. Jonathan Thomas |
Penaethiaid Cynorthwyol | Mr Steffan Davies
Mrs Rhian Carruthers Mrs. Eirlys Thomas Miss. Nia Williams |
Pennaeth Addysg Gorfforol | Mr. John Nogrove |
Pennaeth Addysg Grefyddol | Mrs. Gwennan Morgan |
Pennaeth Bac | Miss. Elin Jones |
Pennaeth Celf | Mr. Wyn Mainwaring |
Pennaeth Cerdd | Mr. Berian Lewis |
Pennaeth Cymraeg | Mrs. Helen Evans |
Pennaeth Daearyddiaeth | Mr. Alun Thomas |
Pennaeth Drama | Mrs. Lowri Davies |
Pennaeth DT | Mr. Robyn Davies |
Pennaeth Gwyddoniaeth | Miss. Catrin Pritchard |
Pennaeth Hanes | Mrs. Bethan Hubbard |
Pennaeth Ieithoedd Modern | Miss. Claire Russell |
Pennaeth Mathemateg | Mrs. Luned Davies |
Pennaeth Saesneg | Mrs. Llinos Mary Jones |
Pennaeth TGCh | Mr. Christopher Lacey |
2017-2018 | 2018-2019 | 2019-2020 | 2020-2021 | 2021-2022 | 2022-2023 | 2023-2024 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Blwyddyn 7 | Mrs. Luned Davies | Mrs. Tracy Jenkins | |||||
Blwyddyn 8 | Mrs. Tracy Jenkins | Mr. Steffan Davies | Mrs. Tracy Jenkins | Mr. Steffan Davies | Mrs. Tracy Jenkins | Miss. Elin Jones | |
Blwyddyn 9 | Mr. Steffan Davies | Mrs. Tracy Jenkins | Mr. Steffan Davies | Mrs. Tracy Jenkins | Mr. Christopher Lacey | Mrs. Gwennan Morgans | |
Blwyddyn 10 | Mr. Gareth Jones | Mrs. Eirlys Thomas | Mr. Gareth Jones | Mrs. Eirlys Thomas | Miss. Elin Jones | Mr. Gareth Jones | Mrs. Lowri Davies |
Blwyddyn 11 | Mrs. Eirlys Thomas | Mr. Gareth Jones | Mrs. Eirlys Thomas | Mr. Gareth Jones | Mrs. Lowri Davies | Mr. Gareth Jones | |
Chweched | Mr. Tim Hayes | ||||||
Is-Chweched | Mrs. Lowri Davies | Mrs. Alwen Owen |
Gweler hefyd y categori: Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin