Ysgol Harrow

Ysgol Harrow
Mathysgol fonedd, ysgol breswyl, ysgol annibynnol, ysgol i fechgyn Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Harrow
Sefydlwyd
  • 1572
  • 1 Ionawr 1910 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadHarrow on the Hill Edit this on Wikidata
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5725°N 0.335°W Edit this on Wikidata
Cod postHA1 3HP Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganJohn Lyon Edit this on Wikidata
Crefydd/EnwadEglwys Loegr Edit this on Wikidata

Mae Ysgol Harrow yn ysgol breswyl annibynnol ar gyfer bechgyn yn Harrow, Llundain, Lloegr. Sefydlwyd yr ysgol ym 1572 gan John Lyon o dan Siarter Frenhinol gan Elizabeth I[1], ac mae'n un o'r naw ysgol gyhoeddus a gafodd eu rheoleiddio gan Ddeddf Ysgolion Cyhoeddus 1868. Mae Harrow yn codi hyd at £12,850 (2017/18)[2] y tymor, gyda thri thymor fesul blwyddyn academaidd. Harrow yw'r bedwaredd ysgol breswyl ddrutaf yng Nghynhadledd y Prifathrawesau a Phrifathrawon.

Mae gan yr ysgol gofrestriad o 821 o fechgyn mewn deuddeg o dai preswyl, pob un ohonynt yn lletya llawn amser.

Mae gwisg Harrow yn cynnwys hetiau gwellt, siwtiau bore, a hetiau top.

Mae Sefydliad Harrow hefyd yn cynnal ysgol ramadeg annibynnol yn Harrow, o'r enw Ysgol John Lyon, a nifer o ysgolion tramor. Mae Ysgol John Lyon hefyd yn talu ffioedd ac yn ddethol yn academaidd. Mae'r arweinydd cerddorfa Cymreig Owain Arwel Hughes wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol John Lyon.

Ymysg ei gyn-fyfyrwyr bu wyth o Brif Weinidogion Prydeinig neu Indiaid (gan gynnwys Peel, Palmerston, Baldwin, Churchill a Nehru), gwladweinwyr tramor, cyn-aelodau ac aelodau cyfredol o ddau dŷ Senedd y DU, pum brenin a nifer o aelodau eraill o deuluoedd brenhinol amrywiol, tri enillydd Gwobr Nobel, ugain Croes Fictoria ac un o ddeiliaid y George Cross, a nifer o ffigurau yn y celfyddydau a'r gwyddorau.

Pobl Harrow â chysylltiadau Cymreig

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]