Enghraifft o'r canlynol | ysgol annibynnol, day school, ysgol breswyl, ysgol uwchradd |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 13 g |
Lleoliad | Adeilad Ysgol Rhuthun, Rhuthun |
Gweithwyr | 91, 99, 78, 68, 180 |
Rhanbarth | Sir Ddinbych |
Gwefan | http://www.ruthinschool.co.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Ysgol Rhuthun yn ysgol breifat yn nhref Rhuthun, Sir Ddinbych. Mae'r adeilad presennol dros gant oed, ond mae'r ysgol yn un o'r hynaf yng ngwledydd Prydain: dros 700 o flynyddoedd.
Ni wyddom yr union ddyddiad y sefydlwyd yr ysgol, rhywdro ar ôl 1282. Y dyddiad a dderbynir yn fwyaf cyffredin ydy 1284, a hynny efo arian Reginald de Grey.[1] Sonir yn Taxatio 1291 fod yma goleg llewyrchus wed'i gysylltu â'r eglwys.
Yn 1574, cododd Gabriel Goodman, Deon Westminster, adeilad deulawr o galchfaen fel adeilad pwrpasol yng nghysgod Eglwys Sant Pedr. Yn 1595 neu 1561, o dan gyfarwyddyd Goodman, cyfeiriwyd arian y Degwm o blwyf Llanelidan ac at ddefnydd yr ysgol.
Cafwyd adroddiad yn ddiweddar gan Estyn, i safonau'r addysg yn yr ysgol; ymateb y pennaeth, Mr. Belfield, oedd: "The Independent Schools' Inspectorate report was very favourable and commented most positively on not only the academic achievements, but also the demeanour and positive attitude of the pupils." [2]