Enghraifft o'r canlynol | statutory corporation |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1961 |
Sylfaenydd | Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig |
Gweithwyr | 397 |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.thecrownestate.co.uk/ |
Tir ac eiddo arall sydd ym meddiant brenin neu frenhines y DU "yn rhinwedd y Goron"—h.y. heb fod yn eiddo personol—yw Ystad y Goron (Saesneg: The Crown Estate). Mae'n mwynhau statws cyfansoddiadol amwys erbyn hyn. Mae'n perthyn i'r teyrn trwy etifeddiaeth ac eto heb fod yn rhan o'i eiddo personol; mae'n cyfrannu unrhyw elw i Drysorlys y DU ac eto dydy o ddim yn perthyn i Lywodraeth y DU chwaith ond yn hytrach mae'n cael ei redeg fel ymddiriedoraeth dan reolaeth "Y Bwrdd" neu (a defnyddio'r enw traddodiadol cyfarwydd) Comisiynwyr Ystad y Goron.[1] Mae yna wahaniaethau yn y ffordd mae'n cael ei rhedeg a'i rheoli yn yr Alban mewn cymhariaeth ag yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Dechreuodd Ystad y Goron yn yr Oesoedd Canol yn Nheyrnas Lloegr. Yn 1760, daeth y brenin Siôr III o Brydain Fawr i gytundeb â llywodraeth y dydd i roi'r Ystad frenhinol i'r llywodraeth ei defnyddio i godi incwm mewn cyfnewid am gyfran o'r incwm hwnnw fel incwm personol i'r teulu brenhinol: dyma sail y Rhestr Sifil heddiw.[1]
Er bod y term "Eiddo'r Goron" yn cynnwys tir ac eiddo o bob math sy'n perthyn i deulu brenhinol Prydain, dydy Ystad y Goron ddim yn rheoli'r holl eiddo hyn (mae eithriadau amlwg yn cynnwys Dugiaeth Cernyw a'r palasau brenhinol). Ond er hynny mae tir ac eiddo'r Ystad yn sylweddol iawn. Mae'n cynnwys[2]:
Cyfanswm gwerth y portffolio hwn yw £7.3 biliwn (£7,300,000,000).[3]