Testun o apocryffa'r Hen Destament yw Ystoria Adaf ac Efa y Wreic sydd yn adrodd hanes Adda ac Efa wedi iddynt gael eu gyrru allan o Ardd Eden. Mae'r testun Lladin Vita Adae et Evae yn dyddio o'r 9g ac wedi ei ysgrifennu ar sail y testun Groeg Apocalyps Moses.
O ddiwedd yr 12g ymlaen, ac yn enwedig yn y 14g, cafodd y testun Lladin ei gyfieithu i sawl iaith yn Ewrop gan gynnwys Cymraeg Canol, Cernyweg, Llydaweg, Saesneg Canol, Hen Ffrangeg, Gwyddeleg Canol, Almaeneg, ac Eidaleg.
Ymddanosir y testun Cymraeg yn llawn mewn wyth llawysgrif o'r 14g hyd at y 18g, gan gynnwys Llyfr Gwyn Rhydderch a Llansteffan 27. Ceir sawl thema yn Adaf ac Efa sydd yn debyg i lenyddiaeth Gymraeg gynhenid yr Oesoedd Canol, megis Pedair Cainc y Mabinogi.[1]