Cwmwd canoloesol yn nwyrain Teyrnas Powys (gogledd-ddwyrain Powys heddiw) oedd Ystrad Marchell. Gyda'r Llannerch Hudol a chwmwd Deuddwr ffurfiai'r 'Teirswydd'. Pan ymranodd teyrnas Powys yn y 12g, daeth yn rhan o dywysogaeth Powys Wenwynwyn.
Gorwedd y cwmwd ar lan orllewinol afon Hafren, sy'n ei wahanu oddi ar gwmwd Gorddwr dros yr afon. I'r gogledd ffiniai'r cwmwd â chwmwd Deuddwr a rhan o gantref Mechain, ac i'r de ffiniai â Llannerch Hudol a rhan o gantref Caereinion.
Enwir y cwmwd ar ôl un o'i gymoedd, Ystrad Marchell. Yno y lleolir Abaty Ystrad Marchell (Strata Marcella), abaty Sistersiaidd a sefydlwyd gan y bardd-dywysog Owain Cyfeiliog o Bowys yn 1170-1172. Bu Owain a'i fab Gwenwynwyn yn hael iawn wrth yr abaty.
Gorweddai'r cwmwd i'r gogledd o'r Trallwng, a tueddai i fod ym meddiant pwy bynnag a reolai'r dref honno ar y pryd, boed y Cymry neu'r Normaniaid. John Charleton, un o farwniaid grymusaf y Mers, a'i rheolai ar ddechrau'r 14g.