Yunus Emre | |
---|---|
Ganwyd | 1241 Asia Leiaf |
Bu farw | 1321 Asia Leiaf |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd |
Galwedigaeth | bardd, llenor, cyfrinydd |
Bardd gwerin Twrcaidd a chyfriniwr Islamaidd Twrcaidd oedd يونس امره, Yunus Emre (ynganiad Twrceg: [juˈnus emˈɾe]) a adnabyddir hefyd fel Derviş Yunus ('Yunus y Dervish') (1238–1328).[1] Ei enw, Yunus, yw'r hyn sy'n cyfateb Twrcaidd i'r enw Cymraeg, Jonah. Ysgrifennodd mewn Twrceg Hen Anatolia, cyfnod cynnar yr iaith Twrceg. Pasiodd Cynhadledd Gyffredinol UNESCO yn unfrydol benderfyniad yn datgan 1991, sef 750 mlynedd ers geni'r bardd, yn Flwyddyn Ryngwladol Yunus Emre.[2]
Enwir sefydliad er hyrwyddo iaith a diwylliant Twrci yn fyd-eang yn Yunus Emre Enstitüsü (Sefydliad Yunus Emre) ar ei ôl fel parch a dathliad ohono.
Cafodd Yunus Emre ddylanwad aruthrol ar lenyddiaeth Twrcaidd o'i ddydd ei hun hyd heddiw, oherwydd mae Yunus Emre, ar ôl Ahmed Yesevi a Sultan Walad, yn un o'r beirdd cyntaf y gwyddys amdano i gyfansoddi gweithiau yn Nhwrceg llafar ei oes a'i ranbarth ei hun yn hytrach nag mewn Perseg nac Arabeg - ieithoedd llenyddol a 'dysgiedig' y Dwyrain Canol ar y pryd. Mae ei ynganiad yn parhau i fod yn agos iawn at iaith lafar boblogaidd y bobl yng nghanolbarth a gorllewin penrhyn Anatolia - Twrci gyfoes. Dyma hefyd iaith nifer o feirdd gwerin dienw, alawon gwerin, chwedlau tylwyth teg, posau (tekerlemeler), a diarhebion.
Fel Llyfr Oghuz Dede Korkut, epig hŷn a dienw o Ganol Asia, roedd y llên gwerin Twrcaidd a ysbrydolodd Yunus Emre yn ei ddefnydd achlysurol o dekerlemeler fel dyfais farddonol wedi'i drosglwyddo ar lafar iddo ef a'i gyfoedion. Parhaodd y traddodiad llafar caeth hwn am gyfnod hir.[3] Yn dilyn goresgyniad Mongoliaid ar Anatolia, a hwyluswyd gan y Sultanate o orchfygiad Swtlaniaeth Rum (ardal yng nghanolbarth Anatolia) ym Mrwydr Köse Dağ 1243, ffynnodd llenyddiaeth gyfriniol Islamaidd yn Anatolia; Daeth Yunus Emre yn un o'i beirdd mwyaf nodedig. Mae barddoniaeth Yunus Emre — er ei bod yn weddol syml ar yr wyneb—yn tystio i’w ddawn wrth ddisgrifio cysyniadau cyfriniol digon abswiwt mewn ffordd glir. Mae'n parhau i fod yn ffigwr poblogaidd mewn nifer o wledydd, yn ymestyn o Azerbaijan i'r Balcanau, gyda saith ardal wahanol a gwasgaredig yn dadlau ynghylch y fraint o gael ei feddrod o fewn eu ffiniau. Llyfr pwysicaf Yunus Emre yw Risaletu’n Nushiyye.[4]
Mae Yunus Emre hefyd wedi bod yn ffocws mewn ffilm a chân, ymhlith rhain mae: