Zia Mohyeddin | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mehefin 1931 Faisalabad |
Bu farw | 13 Chwefror 2023 Karachi |
Dinasyddiaeth | Pacistan India Y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor llwyfan, actor ffilm, cynhyrchydd teledu |
Swydd | prif weithredwr |
Gwobr/au | Hilal-i-Imtiaz |
Roedd Zia Mohyeddin HI SI (20 Mehefin 1931 – 13 Chwefror 2023) yn actor Prydeinig-Pacistanaidd. Roedd e'n cynhyrchydd, cyfarwyddwr, a darlledwr teledu hefyd. Ymddangosodd yn sinema a theledu Pacistanaidd, yn ogystal ag yn sinema a theledu Prydain trwy gydol ei yrfa.[1]
Roedd e'n mwyaf adnabyddus am ei sioe siarad, Zia Mohyeddin Show (1969–1973) [2][3] ar Pakistan Television ac am ei rôl fel Dr. Aziz yn nrama lwyfan A Passage to India.
Cafodd Zia Mohyeddin ei eni yn Lyallpur, India (Faisalabad ym Mhacistan bellach), i deulu Wrdw yn wreiddiol o Rohtak, Dwyrain Punjab (bellach yn Haryana, India).[4] Mathemategydd, dramodydd a cerddor oedd ei dad, Khadim Mohyeddin. [5] Cafodd Zia ei fagu yn Lahore.
Cyfforddwyd ef yn yr Academi Frenhinol Celf Ddramatig yn Llundain rhwng 1953 a 1955.
Ymddangosodd Mohyeddin mewn ffilmiau fel Lawrence of Arabia (1962)[1][2] a Khartoum (1966). Roedd ei rolau teledu yn cynnwys The Jewel in the Crown (1984).
Bu farw yn Karachi, yn 91 oed.[6][7]