Ólavsøka

Ólavsøka
Mathdiwrnod cenedlaethol, gwyl genedlaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladYnysoedd Ffaröe Edit this on Wikidata
Ólavsøka – Marchogion ac athletwyr yn gorydmeithio ar 29  Gorffennaf.

Ólavsøka yw Diwrnod Nawddsant Ynysoedd y Ffaröe (Føroyar) a'i phrif wyl haf. Ystyrir hi, gyda Diwrnod y Faner Føroyar, y Merkyð a gynhelir ar 25 Ebrill, yn ddiwrnod cenedlaethol. Dethlir yr Ólavsøka dros sawl niwrnod ond mae'r diwrnod ei hun ar y 29ain. Ar y diwrnod hwn bydd y Logting, senedd yr ynysoedd, yn agor ei sesiwn gyntaf. Mae'r Ólavsøka yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau a chystadlaethau gan gynnwys rasus cychod a gemau pêl-droed. Cynhelir ffeinal y rasus cychod ar yr 28 Gorffennaf. Mae hon yn hanner diwrnod o wyliau i aelodau sawl undeb llafur tra bo'r Ólavsøkudagur (Diwrnod Sant Olaff) ar y 29 Gorffennaf yn ddiwrnod llawn o wyliau i aelodau'r geddill,[1] ond nid pob un undeb llafur.

[2]

Ystyr llythrennol Olafsoka yw 'Gwylnos St Olaff (vigilia sancti Olavi yn Lladin), er cof am farwolaeth St Olaff ym Mrwydr Stiklestad (gw. Olsok) yn 1030 ond mae'r senedd, y Logting, yn rhagflaenu'r diwrnod nawddsant. Fel sawl gwyl Ffaröeg arall, mae'r vøka (gwylnos) yn cychwyn y noson flaenorol, felly, cychwynir yr Ólavsøka wastad ar 28 Gorffennaf  gyda seremoni agoriadol. Mae rhai digwyddiadau hyd yn oed yn cychwyn cyn hynny a cheir Cyngerdd Ólavsøka ar 27ain ers sawl blwyddyn bellach.

Ar ddiwrnod yr Ólavsøka ei hun bydd trigolion yr Ynysoedd yn heidio i'r brifddinas, Tórshavn. Cynhelir y ffeinal rhwyfo yno, sef un o uchafbwyntiau'r calendr chwaraeon. Yn ogystal, ceir arddangosfeydd celf, cerddoriaeth werin a dawnsio Cadwyn Ffaröeg. Mae'r Ddawns Gadwyn ar agor i bawb ac fe'i cynhelir fel rheol yn y Sjónleikarhúsið, sef theatr yn Tórshavn.

Cyfarchiad yr Ólavsøka mewn Ffaröeg yw Góða Ólavsøku! (Noswyl Olaff Dda!).

Cyhoeddwyd y stamp ar y dde gan Postverk Føroya ar 18 Mai 1998, ac mae'r gwaith celf gan Edward Fuglø.

Cyngerdd yr Ólavsøka ar 27 Gorffennaf[golygu | golygu cod]

Cynhelir rhai digwyddiadau cyn y 29ain gan gynnwys Cynger yr Ólavsøka yn Tórshavn a gynhelir ar y 27ain. Fel mewn eisteddfod gall y gyngerdd bara'n hwyr i'r nos. Dechreuodd cyngerdd y flwyddyn 2010 am 8.00 y nos gan orffen am 3.00 y bore.[3]

Parêd Noswyl Ólavsøka a'r Agoriad yn Tinghúsvøllur ar yr 28ain[golygu | golygu cod]

Bydd dechau dathliadau'r Ólavsøka fel rheol yn cychwyn gyda parêd yn Tórshavn o bobl chwaraeon, aelodau cyngor y dre, band prês a marchogwyr. Byddant yn cerdded o ysgol Kommunuskúlin i'r Tinghúsvøllur yn Vaglið sydd ynghannol y dref. Yno bydd torf yn eu disgwyl. Bydd y pobl sy'n gorymdeithio yna'n ymgynnull ar y Tinghúsvøllur sef llain o dir siap triongl sydd o flaen y senedd-dy (Løgtingshúsið og Tinghúsið). Ceir yno araith gan berson a ddewisir yn benodol a dyma  bydd agoriad swyddogol Ólavsøka. 

Ras Gychod Ólavsøka ar 28 Gorffennaf[golygu | golygu cod]

Ras gychod Ólavsøka 2010, cychod 6-rhwyf (6-mannafør) gyda menywod.

Cynhelir Ras Gychod yr Ólavsøka wastad ar noswyl yr wyl, ser ar yr 28ain. Bydd sawl ras arall wedi bod cyn y ffeinal mewn pentrefi ar hyd yr ynysoedd. Gelwir rhain yn stevnur, lle ceir ras a gwyk gan ddechrau gyda'r Norðoyastevna yn Klaksvík, a gynhelir unai ar ddiwedd Mai neu dechrau Mehefin. Ar ddiwedd Mehefin cynhelir gwyl ynys Suðuroy (Ynys y De) a elwir yn Jóansøka. Dethlir yr wyl yma bob yn ail flwyddyn. Cynhelir hi yn Tvøroyri a Vágur (ar y blynyddoedd cysefin). Cynhelir y gystadleuaeth rhwyfo Jóansøka wastad ar ddydd Sadwrn. Rhennir rasus cychod Ffaröeg mewn sawl rhan gan gynnwys cymalau i blant, bechgyn, merched, dynion a menywod. Mae'r rasus hefyd wedi eu dosbarthu yn ôl maint y cychod. Mae'r cychod i gyd wedi eu gwneud o bren, a bydd y rhwyfwyr yn eistedd wrth ymyl ei gilydd dau wrth ddau gydag un person yn llywio yn y tu cefn. Gelwir y cychod yn y Ffaröeg yn 5-mannafør, 6-mannafør, 8-mannafør a 10-mannafør. Mae'r cychod sy'n ennill Ras Gychod yr Ólavsøka Boat Race yn ennill tlws ac mae Pencampwys Ynysoedd y Ffaröe yn ennill tlws arall. Rhoir medalai i'r rhwyfwyr hefyd. Hyd ras yr Ólavsøka yw 1 km. Ond bydd plant yn rhwyfo dros bellter llai. Mewn rhai lleoliadau eraill ceir amrywiaeth gyda cychod mwy yn rhwyfo pellter mwy. Mae'r 8-mannafør yn rhwyfo 1,500 metr a'r 10-mannafør yn rhwyfo 2,000 metr. Dydy'r pellter yma ddim yn bosib yn Tórshavn.

Parêd a Cantata yr Ólavsøka ar yr 29ain[golygu | golygu cod]

Sunleif Rasmussen yn arwain Cantata'r Olavsøka, 2009.

Agorir Senedd Ynysoedd y Ffaröe, y Løgting, yn swyddogol ar 29ain. Rho'r Prif Weinidog,yLøgmaður)ei araith a caiff y seneddwyr gyfle i ymateb dros y diwrnodau canlynnol.Ond cyn agor y Løgting, ceir seremoni a ddechreur cyn 11.00a.m. lle bydd offeiriaid, pennaeth yr Heddlu, swyddogionTeyrnas Denmarc a phwysigion eraill yn gorymdeithio o Gadeirlan Torshavn y Dómkirkjan. Wedi'r gwsanaeth yn yr eglwys byddant yn gorymdeithio i'r Senedd-dy, y Tinghúsið. Byddant yno yn sefyll y tu allan i'r Tinghús gan wynebu'r dorf sydd wedi ymgynnull ar y Tinghúsvøllur. Ceir yna gerddoriaeth glasurol a chorawl, y Olavsoka Cantata,a ddechreuir oddeutu ganol dydd. 

Yn 2009 dathlwyd canmlwyddiant Bwrdeisdref  Tórshavn,a cyfansoddodd ac arweiniodd y cyfansoddwr Sunnleif Rasmussen ganeuon wedi eu seilio ar ganeuon gwerin Ffaröeg a Salmau Kingo ynghyd â cherddoriaeth gyfoes. Roedd 160 yn y côr a ddaeth o wahanol rannau o'r Ynysoedd. [4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Industry.fo, Frídagar um Ólavsøkuna". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-05. Cyrchwyd 2015-07-28.
  2. "Nordlysid.fo". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-23. Cyrchwyd 2015-07-28.
  3. Torshavn.fo, "Eitt brak av eini Ólavsøkukonsert!"
  4. Torshavn.fo, Ólavsøkukantatan 2009

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]