Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Noel Clarke Mark Davis |
Cynhyrchydd | Damon Bryant Dean O'Toole Noel Clarke |
Ysgrifennwr | Noel Clarke |
Serennu | Emma Roberts Tamsin Egerton Ophelia Lovibond Shanika Warren-Markland Mandy Patinkin Helen McCrory Kevin Smith Noel Clarke |
Cerddoriaeth | Adam Lewis |
Sinematograffeg | Franco Pezzino |
Golygydd | Mark Davis Mark Everson |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Universal Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 2 Mehefin 2010 |
Amser rhedeg | 117 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau America DU |
Iaith | Saesneg |
Mae 4.3.2.1. (sy'n sefyll am 4 girls, 3 days, 2 cities, 1 chance)[1] yn film cyffro trosedd Prydeinig Americanaidd o 2010. Y cyfarwyddwyr yw Noel Clarke a Mark Davis. Roedd Clerk hefyd yn awdur y sgript. Sêr y ffilm oedd Emma Roberts, Tamsin Egerton, Ophelia Lovibond, Shanika-Warren Markland, Mandy Patinkin, Helen McCrory, Kevin Smith, Camille Coduri a Noel Clarke.[2]. Cafodd ei ryddhau ar 2 Mehefin 2010.
Mae'r stori yn canolbwyntio ar bedwar ffrind 19 oed o Lundain[3]: Joanne (Jo), Cassandra, Shannon a Kerrys. Maent i gyd yn cyfarfod mewn caffi, lle maent yn gweld Dillon a Smoothy. Yn ddiarwybod iddo, mae Shannon yn ffansio Dillon. Mae'r heddlu yn dod i i'r caffi ac mae Dillon a Smoothy yn rhedeg i ffwrdd. Cyn ffoi mae Dillon yn gollwng diemwnt sydd wedi ei ddwyn yn ddamweiniol i fag Cassandra. Yna mae'r pedwar merch yn cerdded allan ac yn mynd i'w cartrefi gwahanol.
I ddechrau mae'r ffilm yn sôn am stori Shannon: mae hi'n cyrraedd adref ac yn canfod bod ei mam ar fin gadael ei thad. Mae hi'n colli ei thymer ac yn rhedeg i ffwrdd. Mae hi'n mynd i gartref Jo, sy'n gorfod rhuthro allan i'w gwaith, gan ddweud wrthi nad oes ganddi amser i siarad. Mae Jo yn galw Shannon i'r archfarchnad lle mae'n gweithio, ond mae'n dweud wrthi am ymadael cyn gynted ag y mae'n cyrraedd. Mae Shannon yn gwrthod mynd, mae Dillon yn cusanu Jo, gan bechu Shannon sy'n ffansio fo. Mae Shannon yn dwyn paced o Pringles ac yn ffoi o'r siop.
Wedi meddwi mewn bar, mae Shannon yn mynd i dwnnel lle mae hi'n peintio graffiti ar y wal. Mae gang yn ymosod arni ond mae'n cael ei hachub gan gymeriad o'r enw Kelly. Mae Shannon yn sylweddoli bod Kelly yn chwilio am y paced Pringles. Mae hyn yn cael ei gadarnhau pan fo Kelly yn datgelu bod hi'n chwilio am 15 diemwnt. Mae un eisoes ym mag Cassandra ac mae'r gweddill yn y can Pringles a syrthiodd allan o fag Shannon yn y twnnel. Mae hi'n dianc trwy daro Kelly yn anymwybodol efo drws yr ystafell ymolchi. Mae hi'n darganfod y diemwntau wedi iddi ddychwelyd i'r lle y bu'r ymgais i ymosod arni. Mae'n gadael neges sy'n rhoi gwybod i Jo amdanynt. Yn ddiweddarach, mae Shannon yn canfod ei mam ac yn ei chyhuddo o beidio â'i charu, yn enwedig ar adeg pan orfodwyd iddi gael erthyliad. Mae stori Shannon yn dod i ben gyda hi'n dal y diemwntau wrth sefyll uwchben pont, gan awgrymu ei bod ar fin cyflawni hunanladdiad. Mae Jo, Cassandra a Kerrys yn troi fyny ac yn gorfodi Shannon i roi'r diemwntau iddynt.
Mae ail rhan y stori yn adrodd hanes Cassandra, sy'n ymweld â Dinas Efrog Newydd. Mae am fynd i'r ddinas am ddau reswm. Y rheswm gyntaf yw i gwrdd â Brett, dyn mae wedi cyfarfod ar y rhyngrwyd. Yr ail reswm yw am fynychu clyweliad ar gyfer ysgol piano. Mae hi'n cael rhyw efo Brett ac yn y bore yn canfod bod ei holl eiddo wedi mynd heblaw am ei bag llaw, sy'n cynnwys y diemwnt. Mae hi hefyd yn darganfod llythyr mae Shannon wedi bod yn chwilio amdani, a ysgrifennwyd gan ei mam yn esbonio pam ei bod hi'n gadael. Mae'n ei hanfon i dŷ Kerrys i'w trosglwyddo i Shannon.
Mae trydydd adaran y ffilm yn edrych ar stori Kerrys. Ar ôl gweld ei frawd Manuel yn derbyn pecyn a chyfarwyddiadau gan Dillon a Smoothy, mae Kerrys a'i chariad Jas yn torri i mewn i fflat Cassandra ac aros yno am y penwythnos. Mae Manuel yn eu cloi mewn ystafell panig, ac yn dychwelyd y pecyn i Dillon a Smoothy fel y cyfarwyddyd ac yna yn taflu parti. Mae'r ddwy ferch yn dianc o'r ystafell panig, ac yn gorfodi pawb allan o'r fflat. Mae Kerrys yn mynd adref ac yn canfod llythyr mam Shannon bu i Cassandra ei hanfon iddi. Mae'n dwyn car newydd Manuel er mwyn ceisio ddod o hyd i Shannon gan stwffio Manuel i mewn i gist y car, ond pan mae'n ceisio ymosod arni, mae hi'n cael damwain car sy'n taro'r car i mewn i siop Jo.
Mae'r bedwaredd adran yn olrhain y stori trwy brofiadau Jo. Mae Jo yn gweithio mewn archfarchnad 24 awr gydag Angelo. Mae hi'n cael gwybod bod ei rheolwr newydd, Tee, yn y dref, ac yn dechrau dod yn amheus ohono. Mae'n ymddangos bod Tee wedi bod yn gweithio gyda Dillon a Smoothy i drosglwyddo'r diemwntau, ond mae un ar goll. Mae Tee yn gofyn i Dillon a Smoothy i ddod i'r archfarchnad. Daw Dillon a Smoothy gan ddisgwyl cael eu talu, o ganfod bod Tee ddim am eu talu maent yn penderfynu cyflawni lladrad arfog o'r siop fel dial.
Pan fydd Shannon yn cyrraedd, mae Jo yn ceisio cael hi ymadael. Mae Dillon yn cusanu Jo, ond yn ddiarwybod i Shannon mae'n rhaid iddi ildio'r gusan gan fod Dillon yn anelu gŵn ati. Mae Shannon yn ffoi mewn ffieidd-dra at frad ei chyfaill gan ddwyn tiwb o Pringles wrth ymadael. Y diwrnod wedyn, mae Jo yn sylweddoli bod y diemwntau gan Shannon, a phan fydd Tee ar fin cael ei saethu gan Kelly, mae Jo yn ei achub ychydig cyn i Kerrys gyrru car Manuel i mewn i'r siop. Mae Jo yn helpu Kerrys i ddianc ac yn gadael nodyn a DVD sy'n dangos rhan Tee yn y drosedd. Mae Tee yn ceisio dianc ond mae Angelo yn ymosod arno ac yn ei ddal hyd i'r heddlu cyrraedd.
Mae Cassandra yn dychwelyd gyda'r diemwnt olaf. Mae'n cwrdd â Jo a Kerrys ac maent yn mynd i chwilio am Shannon. Wedi siarad â hi a rhoi llythyr eu mam iddi maent yn llwyddo ei pherswadio i beidio â neidio o'r bont ond i gyflwyno'r diemwntau i'r heddlu. Maen nhw gyd yn hedfan i Efrog Newydd gyda Kelly.
|
|
Cafodd y ffilm derbyniad cymysg gan yr adolygiadwyr a'r beirniaid. Ar y wefan adolygu ffilm, Rotten Tomatoes, cafodd y ffilm raddiad cyffredinol o 34% gan feirniaid, yn seiliedig ar 29 adolygiad[4].
Rhoddodd Peter Bradshaw o'r papur newyddion The Guardian[5] a Wendy Idle o'r Times adolygiad negyddol i'r ffilm. Dywedodd Bradshaw fod y ffilm "dros y lle", gan ystyried bod yr actio ar yr ochr "torpid", ac roedd Idle o'r farn bod y ffilm yn gyffredinol drwg.
Cafodd y trac sain ei ryddhau ar 28 Mai 2010 gan Sony Music Entertainment.
|publisher=
(help)