Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn, sefydliad di-elw |
---|---|
Golygydd | Kalle Lasn |
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 1989 |
Dechreuwyd | 1989 |
Sylfaenydd | Kalle Lasn |
Pencadlys | Vancouver |
Rhanbarth | Vancouver |
Gwefan | http://www.adbusters.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corff Canadaidd nid-er-elw, gwrth-brynwriaethol, ac amgylcheddol[1] yw Adbusters Media Foundation. Cafodd ei sefydlu yn 1989 gan Kalle Lasn a Bill Schmalz yn Vancouver, British Columbia. Mae Adbusters yn disfrigio ei hun fel "rhwydwaith byd-eang o arlunwyr, ymgyrchwyr, ysgrifenwyr, pranksters, myfyrwyr, addysgwyr ac entrepreneuriaid sydd eisiau symud ymlaen ar ffurf mudiad cymdeithasol newydd yn yr oes wybodaeth."[2]
Caiff ei alw, gan rai, yn gorff gwrth-gyfalafol neu'n gorff sy'n gwrthwynebu cyfalafiaeth,[3] mae'n cyhoeddi'r cylchgrawn Adbusters, sydd â chylchrediad o 120,000. Mae'r cylchgrawn yn ymroddedig i herio prynwriaeth, ac yn rydd o hysbysebion, drwy gael ei chynnal gan ddarllenwyr. Mae cyfranwyr y cylchgrawn yn cynnwys Christopher Hedges, Matt Taibbi, Bill McKibben, Jim Munroe, Douglas Rushkoff, Jonathan Barnbrook, David Graeber, Simon Critchley, Slavoj Žižek, Michael Hardt, David Orrell ac eraill.
Mae Adbusters wedi lansio llawer o ymgyrchoedd rhyngwladol, sy'n cynnwys Buy Nothing Day, TV Turnoff Week ac Occupy Wall Street; mae hefyd yn cael ei adnabod oherwydd y subvertisements sydd ynddo - sy'n ffugio hysbysebion poblogaidd, a'i dafod yn ei foch. Yn Saesneg, mae gan Adbusters argraffiadau deufisol Americanaidd, Canadaidd, Awstralaidd, DU a fersiwn rhyngwladol. Mae chwaer-gyrff Adbusters yn cynnwys Résistance à l'Aggression Publicitaire[4] a Casseurs de Pub[5] yn Ffrainc, Adbusters Norge yn Norwy, Adbusters Sverige yn Sweden a Culture Jammers yn Siapan.[6][7]
Cafodd Adbusters ei sefydlu yn 1989 gan Kalle Lasn a Bill Schmalz, dau wneuthurwr ffilmiau dogfennol sy'n byw yn Vancouver. Ers y 1990au cynnar, mae Lasn wedi bod yn gwneud ffilmiau ynglŷn â'r hyn y gallai y Gorllewin ddysgu o'r profiad Siapaneaidd gyda chyfalafiaeth.
Yn 1988, roedd y British Columbia Council of Forest Industries yn wynebu pwysau cyhoeddus anferth gan y mudiad amgylcheddol. Ymladdodd y diwydiant logio yn ôl â rhyfelgyrch hysbysebion teledu o'r enw "Forests Forever" ("Coedwigoedd am Byth").[8] Dymchwelwyd Lasn a Shmalz gan ddefnydd hwn yr airways cyhoeddus i ddanfon beth roedden nhw'n teimlo fod propaganda wrth-amgylcheddol. Atebon nhw drwy gynhyrchu subvertisement o'r enw "Talking Rainforest,"[9] sy'n dangos hen goeden yn esbonio wrth goeden ifanc fod "fferm coed ddim yn goedwig" (a tree farm is not a forest). Ond methasant â phrynu amser ar yr awyr ar gyfer ei hysbyseb.
Yn ôl cyn-weithiwr Adbusters, "Creodd adwaith y CBC i hysbyseb teledu wedi'i chynnig y pwynt flach go iawn am yr [Adbusters] Media Foundation. Roedd yn debyg mai hysbyseb Lasn a Schmaltz yn rhy ddadleuol i gael ei darlledu ar y CBC. Roedd neges amgylcheddol oedd yn herio cwmnïau coedwigaeth mawr yn cael ei ystyried bod yn 'hysbysebu eiriolaeth' ac yn cael ei lluddio, er bod y negeseuau 'gwybodaethol' oedd yn gogoneddu clearcutting yn iawn."[10]
Ganwyd felly y Foundation oddi wrth y sylweddoliad bod gan ddinasyddion ddim yr un mynediad i'r cyfryngau â mae gan gorfforaethau. Mae un o ymgyrchoedd allweddol y Foundation yn dal i fod y Media Carta, "mudiad i feithrin yr hawl i gymuno sy'n yng nghyfansoddiadau holl genhedloedd rhydd, ac yn y Datganiad Cyffredinol am Hawliau Dynol."
Mae isdeitl cylchgrawn Adbusters yn "The Journal of the Mental Environment," sef "Newyddiadur yr Amgylchedd Meddyliol."
Mewn cyfweliad yn 1996, esboniodd Kalle Lasn fod gôl y Foundation i
arloesi math newydd weithredaeth gymdeithasol, gan ddefnyddio holl rymoedd y cyfryngau torfol i werthu syniadau, yn hytrach na chynhyrchion. Rydan ni'n cael ein cymell gan fath o 'feddwl gwyrdd' sy'n dod o'r mudiad amgylcheddol a sydd ddim wedi ei lacáu yn hen ideoleg y chwith a'r de. Yn lle hynny, rydan ni'n cymryd y foeseg amgylcheddol yn y foeseg feddyliol, gan geisio glanhau'r ardaloedd genwynig ein meddyliau ni. Ydach chi ddim yn ailgylchu a bod yn ddinesydd amgylcheddol da, yna gwylio pedair awr teledu a chael negeseuau traul wedi eu pwmpio arnoch chi.[11]
Yng nghanol 2011, cynigiodd yr Adbusters Foundation meddiant heddychol Wall Street i brotestio dylanwad corfforaethol ar ddemocratiaeth, anghyfartaledd cyfoeth sy'n tyfu, a'r diffyg o ôl-effeithiau cyfreithiol ar yr argyfwng byd-eang ariannol diweddar.[12] Ceision nhw i gyfuno'r lleoliad arwyddluniol y protestiadau 2011 yn Nnahrir Sgwâr â'r consensus decision-making y protestiadau Sbaenaidd 2011.[13] Dweudodd golygydd uwch Adbusters Micah White iddyn nhw awgrymu'r brotest drwy eu rhestr eheb a "cafodd o'n wirfoddol ei dderbyn gan holl bobl y byd."[12] Dweudai safle Adbusters mai o'w "un galw syml—comisiwn llywyddol i neilltuo arian oddi wrth wleidyddiaeth" y bydden nhw'n "dechrau gosod yr agenda am America newydd."[14] Meithrinon nhw'r brotest gyda murlen oedd arddangos dawnswraig ar y Charging Bull eiconig Wall Street.[15][16]
Tra cafodd y mudiad ei ddechrau gan Adbusters, dydy'r grŵp ddim yn ei reoli, ac ers hynny mae o wedi tyfu ar draws y byd.