Gwlad | Cymru |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 2009 (2021 ar ei newydd wedd) |
Nifer o dimau | 8 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | Adran y De / Adran y Gogledd |
Cwpanau | Cwpan CBD Merched Cymru |
Cwpanau cynghrair | Tlws Adran (tlws Cwpan Cynghreiriau Adran) |
Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Adran Premier yw'r gynghrair pêl-droed merched lefel uchaf yng Nghymru a gymerodd le Uwch Gynghrair Merched Cymru yn dilyn adrefnu ar ddechrau tymor 2021/22.[1]
Fe’i gweinyddir gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a chafodd ei sefydlu yn 2009, fel Cynghrair Merched Cymru, a hi yw’r gynghrair bêl-droed gyntaf i ferched yng Nghymru. Mae'r enillydd yn gymwys i gael lle yng Nghynghrair y Pencampwyr Merched UEFA.
Cyhoeddwyd newid i enw swyddogol y gynghrair ar gyfer tymor 2021-22 sef, Genero Adran Leagues (gan arddel y gair Cymraeg adran yn y fersiwn Saesneg o'r Gynghrair hefyd). Dyma'r Gynghrair merched gyntaf ym Mhrydain a dim ond y 3ydd yn Ewrop i ollwng y gair 'merched' o deitl y gyngrair er mwyn normaleiddio a rhoi statws i bêl-droed merched.[2] Dywedodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Menywod CBD Cymru, "'da chi ddim yn rhoi'r enw 'dynion' ar y Cymru Premier ... pam sydd angen i roi'r enw 'merched' ynddo fo? Achos,ar ddiwedd y dydd, dim ond pêl-droed yw e"[3]
Mewn blynyddoedd blaenorol anfonwyd enillydd y cwpan cenedlaethol i gystadleuaeth Ewropeaidd.
Isod mae rhestr o glybiau fydd yn chwarae yn nhymor 2024–25.
Pencampwyr y gynghrair fydd y clwb sydd â'r nifer uchaf o bwyntiau ar ddiwedd y tymor. Os bydd gan ddau glwb neu fwy yr un nifer o bwyntiau, bydd enillwyr y gynghrair yn cael eu penderfynu yn ôl y gwahaniaeth goliau. Os bydd gan fwy un clwb yr un gwahaniaeth goliau, y clwb sydd wedi sgorio'r nifer uchaf o goliau fydd y pencampwyr.[4] Mae'r gymdeithas hefyd wedi creu strwythur cynghreiriau o dan 19 oherwydd y teimlad bod 'na "ormod o jymp" rhwng y ddau safon yn ôl Lowri Roberts ac eisiau "cadw merched yn y gêm".[5]
Gyda'r strwythur newydd a gyflwynwyd yn 2021-22 crewyd 5 Adran sef:[6]
Cynhelir Cwpan aelodau Cynghreiriau Adran (Permier, De a Gogledd) yn flynyddol. Ail-frandwyd yr enw o Cwpan Uwch Gynghrair Cymru ('Welsh Premier League Cup') i Tlws Adran ('Adran Trophy') yn 2021.
Yn Adran Premier bydd wyth tîm Adran Premier yn chwarae gartref ac oddi cartref ar ffurf twrnamaint gron. Ar ôl y 14 gêm hyn, mae'r pedwar clwb gorau wedyn yn chwarae yn erbyn ei gilydd a'r un peth i'r pedwar clwb isaf, gartref ac oddi cartref. Bydd pencampwr Premier Adran yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA.
Bydd y tîm sy'n gorffen yn 8fed yn disgyn i Adran De neu Adran Gogledd. Bydd wyth tîm Adran y De ac Adran y Gogledd yn chwarae gartref ac oddi cartref. Bydd enillwyr y Gogledd a'r De yn cystadlu mewn gêm ail gyfle, gyda'r enillydd yn cael ei ddyrchafu i Adran Premier. [7]
Cyflwynwyd y gynghrair dan 19 i bontio'r bwlch rhwng pêl-droed ieuenctid a hŷn gyda dros 20 o dimau newydd sbon ledled Cymru., Gyda chlybiau'n defnyddio eu tîm dan 19 fel offeryn datblygu allweddol ar gyfer chwaraewyr sy'n symud ymlaen i'w tîm hŷn. Bydd enillwyr y Gogledd a’r De yn chwarae yn erbyn ei gilydd i gael eu coroni’n bencampwr cenedlaethol dan 19 oed.
Met Caerdydd, Dinas Caerdydd, Dinas Abertawe, Tref Port Talbot, Seintiau Newydd, Pontypridd a Barri Unedig, a Tref Aberystwyth.
Cyhoeddwyd yn 2018 y bydd buddsoddi yn y gêm merched yng Nghymru gan ganolbwyntio ar ardal Casnewydd ac Wrecsam a chynyddu nifer y merched sydd wedi eu cofrestru i chwarae pêl-droed o 6,500 i 20,00 erbyn 2024.[8]
Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddant yn cyflwyno newidiadau i'r strwythur "fydd addas yn "economaidd a daearyddol" ar gyfer datblygiad y gêm yng Nghymru".[9] Esboniodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched CBDC.[10] Gwelwyd y newidiadau hynny ar gyfer tymor 2021-22.[11]
Bydd UEFA yn rhoi lleoedd Ewropeaidd i glybiau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a bennir gan safle Cymru yn safleoedd cyfernod gwlad UEFA ("coefficient rankings"). Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ei dro yn dyrannu nifer o'r lleoedd Ewropeaidd hyn i swyddi olaf Uwch Gynghrair Merched Cymru. Ar ddiwedd tymor 2018–19, roedd Cymru yn safle 39 yn Ewrop - gan roi ochr sengl iddynt yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA.
Yn nhymor 2018–19, enillodd y tîm sydd yn y safle uchaf yng Nghynghrair Merched Premier Cymru gymhwyster i rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.[12]
Chwaraewyd gêm gyntaf erioed y Gynghrair genedlaethol gyntaf ar nos Wener 24 Medi 2009 rhwng C.P.D.M. Aberystwyth yng Nghoedlan y Parc yn erbyn Llanidloes o flaen torf o bron i 400. Enillodd Aberystwyth y gêm, 2 - 0. Y person gyntaf i sgorio yn y Gynghrair oedd chwareuwraig Aberystyth, Sam Gaunt, a'r ail oedd Leanne Bray. Y person gyntaf i dderbyn carden felen oedd, Lucy Hughes (Walker bellach), merch Ray Hughes, un o syfaenwyr a rheolwr C.P.D. Merched Tref Aberystwyth.[13]
Yn ei dri thymor cyntaf, rhannwyd y gynghrair yn ddwy Adran gydag enillydd y ddwy adran yn cystadlu mewn gêm rownd derfynol i ennill y bencampwriaeth. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn y tymor cyntaf, o dymor 2010-11 ymlaen, cafodd y tîm a osodwyd ddiwethaf ym mhob cynhadledd ei israddio.[14]
Ers 2012–13 mae'r gynghrair yn cael ei chwarae mewn un adran yn unig. Yn 2015-16, cafodd dau dîm eu hisraddio. Yr wyth clwb a ffurfiodd y Gynghrair oedd Tref Aberystwyth, Tref Caernarfon, Llanidloes, Manorbier, Castellnewydd Emlyn, Dinas Abertawe, Athrofa Caerdydd (bellach Met Caerdydd) a Wrecsam.
Yn 2021-22 ailstrwythurwyd ac ailfrandwyd yr Uwch Gynghrair a strwythur pêl-droed merched Cymru unwaith eto. Brandwyd yr Uwch Gynghrair yn Genero Adran Premier (Genero ar ôl y noddwyr). Darlledwyd gêm, Met Caerdydd a Dinas Abertawe yn fyw ar 5 Medi 2021.
Noddwyd y Gynghrair ers 2016 gan gwmni cysylltiadau cyhoeddus Orchard a leolir yng Nghaerdydd.[15] Ar gyfer tymor 2021-22 ac am ddwy flynedd ac yn rhan o'r brandio newydd ar gyfer Adran Leagues (sy'n hepgor y gair 'merched') noddwyd y gynghrair gan gwmni Genero - cwmni trefnu digwyddiadu a hyrwyddo.[16]
Ar brynhawn ddydd Sul 27 Medi 2020, darlledwyd y gêm fyw gyntaf erioed o'r Gynghrair gan raglen Sgorio ar S4C.[17] C.P.D. Merched Dinas Abertawe bu'n fuddugol 0-3 dros C.P.D. Merched Dinas Caerdydd yng Nghaerdydd.[18] gyda Chloe Chivers yn 'Seren y Gêm'.[19] Caiff uwchafbwyntiau gemau'r Uwch Gynghrair eu darlledu ar raglen Sgorio ar S4C.[20] Darllediad fyw gyntaf yr Genero Adran Premier ar ei newydd wedd oedd Met.Caerdydd yn erbyn CP.D.M. Dinas Abertawe a ddarlledwyd ar-lein ar Youtube a Facebook Sgorio.[21] Abertawe enillodd 1-2.[22]
Yn y tri thymor cyntaf penderfynodd rownd derfynol rhwng enillwyr adran y gogledd a'r de pwy oedd y pencampwr. Noder felly nad oes gemau terfynnol wedi'r tair bencampwriaeth gyntaf gan i strwythur yr Uwch Gynghrair Genedlaethol ddod i fodolaeth.
|