Ahmed Sefrioui | |
---|---|
Ganwyd | 1915 Fès |
Bu farw | 25 Chwefror 2004 Rabat |
Dinasyddiaeth | Moroco |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, hunangofiannydd, casglwr straeon |
Adnabyddus am | La Boîte à merveilles |
Plant | Abdeslem Sefrioui |
Gwobr/au | Gwobr Marcelin Guérin |
Nofelydd o Foroco yn yr iaith Ffrangeg oedd Ahmed Séfrioui (Ionawr 1915 – 25 Chwefror 2004).
Ganed ef yn Fès yn 1915 i rieni Berber.[1] Sefrioui oedd sylfaenydd amgueddfa Al Batha yn Fès, tref sy'n bresennol ym mron ei holl ysgrifau. Erbyn cwblhau ysgolion Qur'an a chyhoeddus, roedd Séfrioui yn rhugl ei Ffrangeg. Daeth yn newyddiadurwr ar gyfer Action du Peuple ac yn awdur erthyglau hanesyddol fel curadur amgueddfa "Addoha". Ar ôl 1938 gweithiodd yn adrannau addysg, thwristiaeth a diwylliant y llywodraeth yn y prifddinas Rabat. Troswyd tair o’i straeon byrion o’i gasgliad cyntaf, Le Chapelet d'ambre, i’r Gymraeg yn 1978 gan Llinos Iorwerth Dafis. Bu farw yn 2004.[2]