Aisling Bea | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Aisling Bea ![]() |
Ganwyd | Aisling Cliodhnadh O'Sullivan ![]() 16 Mawrth 1984 ![]() Swydd Kildare ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor ffilm, sgriptiwr ![]() |
Perthnasau | Mícheál Ó Súilleabháin, Siobhán Ní Shúilleabháin ![]() |
Gwobr/au | So You Think You're Funny ![]() |
Gwefan | https://www.aislingbea.com/ ![]() |
Mae Aisling O'Sullivan a adnabyddir yn broffesiynol fel Aisling Bea (ganed 16 Mawrth 1984)[1][2] yn actores, comedïwraig ac ysgrifenwraig o Iwerddon.[3][4] Fe'i hadnabyddir am ei hymddangosiadau gwadd ar raglenni panel comedi megis QI a The Big Fat Quiz of Everything. Ers 2016, mae'n gapten tîm ar 8 Out of 10 Cats.
Ganwyd Bea yn Swydd Kildare, Iwerddon, i Brian O'Sullivan, cyn joci proffesiynol,[1] a Helen Moloney. Mae ganddi chwaer o'r enw Sinead.[5] Tad-cu Bea yw'r nofelydd a bardd Gwyddeleg Mícheál Ó Súilleabháin. Mynychodd Academi Gerdd a'r Celfyddydau Dramatig Llundain (LAMDA) ac mae ganddi radd mewn Ffrangeg ac Athroniaeth o Goleg y Drindod, Dulyn.[4][6]
Yn 2012, curodd Bea wyth comedïwr arall i ennill gwobr So You Think You're Funny Gilded Balloon yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin 2012. Hi yw dim ond yr ail ferch i ennill y wobr ers y sefydlwyd 25 mlynedd yn ôl.[7] Yn 2013, enwebwyd Bea ar gyfer gwobr y Gomedïwraig Newydd Orau yng Ngwobrau Comedi Caeredin Foster's ar gyfer ei sioe C'est La Bea.[8]
Mae wedi gwneud nifer o ymddangosiadau gwadd ar raglenni panel comedi, gan gynnwys 8 Out of 10 Cats, Never Mind the Buzzcocks, Celebrity Squares, Would I Lie to You?, QI, A League of Their Own, Duck Quacks Don't Echo, Room 101, Insert Name Here, The Big Fat Quiz of Everything a The Jonathan Ross Show. Mae hefyd wedi ymddangos yn perfformio comedi ar ei sefyll ar Russell Howard's Good News Extra, Channel 4's Comedy Gala a Live at the Apollo.
Daw enw proffesiynol Bea o'i thad a fu farw pan yr oedd yn blentyn.[1] Canfu tra'n astudio yn yr ysgol ddrama bod actores arall o'r un enw yn gweithio yn y diwydiant, felly penderfynodd ar yr enw Aisling Bea.[5]