Akimi Yoshida | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1956 ![]() Tokyo ![]() |
Dinasyddiaeth | Japan ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mangaka, llenor, darlunydd ![]() |
Adnabyddus am | California Story, Kisshō Tennyo, Sakura no Sono, Banana Fish, Cusan Cariadon, Yasha, Eve no Nemuri, Our Little Sister, Kawa yori mo nagaku yuruyaka ni ![]() |
Awdures ac artist o Japan yw Akimi Yoshida (吉田 秋生 Yoshida Akimi; ganwyd 12 Awst 1956) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel arlunydd a darlunydd manga.
Fe'i ganed yn Tokyo ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Celf Musashino a Tokyo.[1][2][3] Gwnaeth ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf ym 1977 yng nghylchgrawn *neu gomic) Bessatsu Shōjo gyda gwaith o'r enw Chotto Fushigi na Geshukunin ('Cymydog Ychydig yn Rhyfedd').[4][5]
Mae Yoshida yn fwyaf adnabyddus am y gyfres drosedd shōjo バナナフィッシュ ('Y Sgodyn Banana') a addaswyd yn anime a gynhyrchwyd gan MAPPA yn 2018.[6]
Mae hi wedi derbyn Gwobr Shogakukan Manga deirgwaith: am Kisshō Tennyo yn 1983, Yasha yn 2001 yng nghategori Shōjo ac am Ddyddiadur Umimachi yn 2015 yn y categori Cyffredinol.[7][8]
Yn 2007, gwobrwywyd hi gyda Gwobr am Waith Ardderchog mewn manga yn yr 11eg Gwyl Gelf Japan, a hynny am Ddyddiadur Umimachi, a addaswyd yn ddiweddarach yn ffilm nodwedd o'r enw Our Little Sister. Yn 2013, derbyniodd y 6ed Gwobr Manga Taishō, eto am Ddyddiadur Umimachi.[9]
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)