Aleida Guevara | |
---|---|
Ganwyd | 24 Tachwedd 1960 La Habana |
Man preswyl | La Habana |
Dinasyddiaeth | Ciwba |
Galwedigaeth | pediatrydd, meddyg, gwleidydd |
Tad | Che Guevara |
Mam | Aleida March |
Mae Aleida Guevara March (ganwyd 24 Tachwedd 1960) yn ferch hynaf Ernesto "Che" Guevara a’i ail wraig Aleida March.
Roedd hi ond yn pedair a hanner oed pan gadwodd ei dad Cuba i fynd i’r Congo i hybu chwyldro. Roedd hi’n 7 oed pan cafodd Che ei ladd yn Bolifia yn 1967.[1]
Mae hi’n paediatregydd sy'n arbenigo mewn alergeddau plant a fel ei thad yn Farcsydd. Mae hi’n gweithio yn Ysbyty Plant William Soler yn La Habana, Ciwba. Mae hi hefyd wedi gweithio fel doctor yn Angola, Ecwador, a Nicaragwa.
Ers 2009 mae Guevara yn helpu rhedeg dwy gartref ar gyfer plant anabl yn Cuba a dau arall am blant ffoaduriaid gyda phroblemau domestig. Mae he hefyd wedi cymryd rhan blaenllaw i gefnogi cymuned Cuba wedi’u taro gan llifogydd a chorwynoedd.
Cymerodd hi ran yn ffilm Michael Moore Sicko yn siarad am wasanaeth iechyd cyhoeddus Cuba.[2]
Mae hi wedi teithio’r byd yn helaeth yn siarad a darlithio am sefyllfa Cuba ac yn dadlau dros hawliau dynol a rhyddhau gwledydd datblygu o broblemau dyled.[3] Mae hi’n awdur y llyfr Chávez, Venezuela and the New Latin America.[4]
Yn Tachwedd 2017 daeth i Dinbych i annerch cyfarfod o flaen 400 o bobl yn Neuadd y Dref.[5]